Mae fferm ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau heddiw i nodi 70 o flynyddoedd ers i garcharorion rhyfel Almaenig ffoi oddi yno.
Yn Island Farm y cafwyd yr ymdrechion mwyaf gan garcharorion rhyfel Almaenig yng ngwledydd Prydain i ffoi drwy gydol yr Ail Ryfel Byd.
Ar Fawrth 10, 1945, llwyddodd 70 o Almaenwyr i ffoi trwy greu twnel allan o’r safle.
Roedd hyd at 2,000 o garcharorion rhyfel ar ôl ar y safle erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945.
Fel rhan o’r dathliadau heddiw, fe fydd yr hanesydd lleol Brett Exton yn rhoi sgwrs am hanes y safle, ac fe fydd cyfle i ymwelwyr weld ‘Hut 9’, yr unig atgof sydd ar ôl o’r safle fel yr oedd e adeg yr Ail Ryfel Byd.
Mae rhai ystafelloedd ar y fferm wedi cael eu hadfer er mwyn ail-greu golygfeydd o’r cyfnod, ac mae darluniau gan rai o’r carcharorion rhyfel wedi’u hadfer ar gyfer arddangosfa arbennig.
Mae mynediad i’r fferm yn rhad ac am ddim, ac fe fydd actorion wedi’u gwisgo yng ngwisgoedd y cyfnod ar gael i dywys ymwelwyr o gwmpas y safle.