Mae pum gyrrwr gafodd eu harestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Storey Arms ger Aberhonddu nos Wener wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae saith o bobol bellach ar fechnïaeth, wedi i ddau lanc gael eu harestio dros nos.
Cafodd disgybl a chyn-ddisgybl Ysgol Bro Morgannwg eu lladd yn y gwrthdrawiad, ynghyd ag Elizabeth Challis, 68 oed o Ferthyr Tudful, a merch 17 oed.
Mae’r heddlu’n credu bod nifer o geir yn teithio gyda’i gilydd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.