Elin Angharad ac Arfon Wyn ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2015 neithiwr.

Cipiodd y gân ‘Y Lleuad a’r Sêr’ y tlws a gwobr ariannol o £3,500 i’r gantores ifanc o bentref Gaerwen, a’r cyfansoddwr profiadol sy’n enw cyfarwydd i wylwyr Cân i Gymru, yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

Y beirniaid eleni oedd Caryl Parry Jones, Lisa Gwilym, Aled Haydn Jones ac Euros Rhys Evans.

Cleif Harpwood oedd mentor yr enillydd eleni.

Roedd hanner y marciau wedi’u rhoi gan y beirniaid cyn i’r pedair cân â’r marciau uchaf gael symud ymlaen i’r bleidlais gyhoeddus.

Cafodd y noson ei chynnal ym Mhafiliwn Môn.