(Llun: ABC News)
Nid oedd gan ddyn croenddu 19 oed arfau yn ei feddiant pan gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu yn Wisconsin nos Wener.

Cafodd Tony Robinson ei saethu gan yr heddlu ar ôl ymosod ar blismon mewn fflat a’i anafu.

Mae’r heddlu wedi dweud fod y ffaith nad oedd ganddo arfau ar y pryd yn ei gwneud hi’n anodd i’r cyhoedd dderbyn ei farwolaeth.

Eisoes, mae protestwyr wedi ymgasglu dros y penwythnos yn dilyn cyfres o farwolaethau’n ymwneud â’r heddlu.

Galwodd yr heddlu ar i’r protestwyr brotestio’n heddychlon yn ôl dymuniadau teulu Tony Robinson.

Nid yw’r plismon dan sylw wedi cael dychwelyd i’w waith tra bod ymchwiliad allanol ar y gweill.

Daw’r digwyddiad diweddaraf ddyddiau’n unig ar ôl i’r awdurdodau benderfynu peidio erlyn Darren Wilson wedi iddo saethu Michael Brown, 18 oed, yn farw ym Missouri.