Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod ac o dresmasu ar ôl dringo ar ben to Palas Westminster.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 9 o’r gloch neithiwr.
Cafodd ei arestio oddeutu wyth awr yn ddiweddarach a’i holi yng ngorsaf yr heddlu.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Scotland Yard nad ydyn nhw’n gwybod pam y dringodd y dyn ar y to.
Nid dyma’r tro cyntaf i rywun fynd ar ben to Palas Westminster – mae protestwyr yn y gorffennol yn cynnwys y rheiny yn erbyn trydedd llain lanio ym maes awyr Heathrow, a phrotestwyr Greenpeace.