Mae dynes wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Basingstoke yn Swydd Hampshire y bore ma.
Llwyddodd dau o bobol i ddianc o’r tŷ teras yn dilyn y digwyddiad toc cyn 5 o’r gloch y bore ma.
Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle.
Derbyniodd y gwasanaethau brys saith o alwadau am y tân.
Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod sut y dechreuodd y tân.