Mae dyn 30 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei daflu oddi ar feic modur yn Abertawe.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Waunarlwydd am 8.40yh neithiwr, a dywed Heddlu’r De fod ei fywyd mewn perygl.

Roedd yn teithio o Waunarlwydd i gyfeiriad Y Cocyd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Cwmbach.

Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.