Roedd batri peiriant tanddŵr wedi darfod flwyddyn cyn i awyren MH370 o Falaysia ddiflannu fis Mawrth diwethaf, yn ôl adroddiad cynhwysfawr i’w ddiflaniad.
Yn ôl yr adroddiad, roedd fawr o’i le ar yr awyren fel arall, ac mae’n ymddangos bod yr hyn ddigwyddodd i’r cerbyd cyn diflannu’n parhau’n ddirgelwch.
Dywed yr adroddiad mai ei bwrpas yw atal digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol, nid rhoi’r bai ar unigolion am yr hyn ddigwyddodd.
Pe bai’r batri heb ddarfod, fe allai timau achub fod wedi dod o hyd i’r cerbyd yng Nghefnfor India ynghynt.
Mae’r adroddiad 584 tudalen yn rhoi manylion am y criw, gan gynnwys eu manylion meddygol, eu cofnodion ariannol a’r hyfforddiant roedden nhw wedi’i gael.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod y batri dan sylw wedi darfod ym mis Rhagfyr 2012.
Doedd dim rheswm, meddai’r adroddiad, i amau cyflwr corfforol na meddyliol y peilot, y Capten Zaharie Ahmad Shah.
Roedd 239 o deithwyr ar yr awyren ar gyfer y daith rhwng Kuala Lumpur a Beijing.