Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ymosodiad honedig ar ddyn 18 oed mewn parc carafannau ym Mhorthcawl.
Cafodd yr heddlu wybod am y digwyddiad ym mharc carafannau Bae Treco ym Mhorthcawl y bore ma.
Mae’r dyn yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.