Mae dogfen gan y Swyddfa Gartref yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Prydain wneud mwy i atal brawychiaeth.
Mae’r ddogfen, sydd heb gael ei chyhoeddi’n swyddogol ond sydd wedi’i gweld gan y Daily Telegraph, yn galw am ymchwiliad i lysoedd Sharia, atal radicaliaid rhag gweithio gyda phlant a phobol ifanc heb oruchwyliaeth, a newid y drefn o roi dinasyddiaeth i bobol o dramor.
Mae’r ddogfen hefyd yn rhoi sylw i ymddygiad sy’n debygol o achosi rhwyg yn y gymdeithas.
Dywed y ddogfen: “Rhaid i ni sefyll i fyny a bod yn fwy cadarn wrth hyrwyddo ein gwerthoedd a herio eithafwyr sy’n eu gwrthwynebu nhw’n sylfaenol.”
Yn ôl rhai o’r mesurau eraill sy’n cael eu trafod yn y ddogfen, fe fyddai’n rhaid i ganolfannau gwaith nodi enwau unigolion a fyddai mewn perygl o gael eu radicaleiddio.
Byddai’n rhaid, hefyd, i unigolion o dramor sy’n hawlio budd-daliadau ddysgu Saesneg.
Daw’r ddogfen wedi i gyfres o fesurau gael eu cyflwyno gan Lywodraeth Prydain fis Tachwedd y llynedd.