Bethan Gwenllian
Bethan Gwenllïan sy’n betrusgar o gefnogi’r Gwyrddion oherwydd eu hagwedd at yr iaith …

Wrth drafod yr etholiad cyffredinol, mae sawl un o’m ffrindiau ac ambell i berthynas yn sôn am bleidleisio dros y Blaid Werdd.

Mae hyn gan bobl a fyddai fel arfer yn pleidleisio dros y Blaid Lafur neu dros Blaid Cymru. Gydag ychydig o fisoedd nes yr etholiad cyffredinol, rŵan ydi’r amser i ddechrau hel meddyliau am bob plaid. Dyma ddechrau felly gyda’r Blaid Werdd.

Tipyn o hanes

Fe sefydlwyd y Blaid Werdd ym 1985 cyn rhannu yn 1990 i ffurfio tair plaid wahanol ac annibynnol – Plaid Werdd yr Alban, Plaid Werdd Gogledd Iwerddon a Phlaid Werdd Cymru a Lloegr.

Oherwydd bod gan Blaid Werdd Cymru a Lloegr yr aelodaeth fwyaf o unrhyw un o’r pleidiau gwyrdd eraill ym Mhrydain, mae’r term Y Blaid Werdd fel arfer felly’n gyfystyr â Phlaid Werdd Cymru a Lloegr.

Mae aelodaeth y blaid wedi dyblu mewn blwyddyn o lai na 14,000 i dros 30,000 erbyn diwedd 2014.

Mae ei haelodaeth bellach dros 54,000 o bobl, sy’n golygu bod mwy nag 24,000 wedi ymaelodi eleni.

Yn 1999 enillodd y blaid ei chynrychiolydd cyntaf yn Senedd Ewrop a bellach mae tri aelod ganddynt.

Yn 2010 enillodd Caroline Lucas sedd Pafiliwn Brighton a dod yn Aelod Seneddol cyntaf y Blaid Werdd ym Mhrydain.

Cydweithio?

Mae maniffesto’r blaid yn canolbwyntio ar eu gwerthoedd craidd, sy’n cynnwys ymroddiad i weithredoedd cadarnhaol a chymdeithasol, atebion di-drais i wrthdaro o amgylch y byd, sicrhau bod y broses wleidyddol yn ddemocrataidd drwy wneud gwleidyddion yn fwy atebol i’r bobl, a chyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol.

Mae gan y Blaid Werdd hefyd ffocws cryf ar yr amgylchedd. Mae eu maniffesto yn cynnwys addewidion ar gynnal rhywogaethau eraill a’u cynefinoedd ac ymroddiad i ddefnyddio egni adnewyddadwy a chynaliadwy.

Gydag ystod o bolisïau mor llydan a pherthnasol i gymdeithas yr 21ain ganrif mae’n hawdd gweld sut mae’r Blaid Werdd wedi denu gymaint o aelodau, yn enwedig ymysg pobl ifanc y Deyrnas Unedig sydd bellach wedi syrffedu a’r prif bleidiau.

Mae gan y Blaid Werdd hefyd berthynas agos gyda phleidiau cenedlaetholgar, rhywbeth sydd yn eu gwneud yn unigryw wrth ystyried y pleidiau mawr eraill ym Mhrydain.

Mae’r berthynas gyda Phlaid Cymru a’r SNP hefyd wedi creu sialens newydd i’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr gan fod y tair plaid wedi cytuno y byddan nhw’n ystyried cydweithio mewn llywodraeth glymblaid ym mis Mai.

Mae’r berthynas unigryw wedi gweld yr Arglwydd Dafydd Wigley, cyn-Arweinydd Plaid Cymru, yn galw ar y Cymry yn Lloegr i bleidleisio dros y Blaid Werdd er mwyn ceisio cynyddu’r effaith y gall Plaid Cymru, Y Blaid Werdd ac yr SNP ei gael yn San Steffan.

Beth am yr iaith?

Yn eu maniffesto mae’r Blaid Werdd yn amlinellu eu hymrwymiad at y Gymraeg drwy dynnu sylw at y ffaith gall yr iaith gael ei niweidio drwy effeithiau globaleiddio.

Mae’r blaid yn amlygu bod angen mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith o fewn y gymuned, ym maes addysg ac yn y gweithle.


Ond ym mis Chwefror daeth sylw ar eu blog sy’n gwrthddweud hyn. Roedd y sylw wedi’i gyhoeddi flwyddyn ddiwethaf fel ymateb i gwestiwn ynglŷn â’u polisi tuag at yr iaith Gymraeg.

Fel ateb i’r cwestiwn, fe ysgrifennodd y blaid eu bod yn “canolbwyntio ar y problemau mwyaf sydd yn bygwth dynoliaeth fel newid hinsawdd a democratiaeth”.

Ydi hyn yn awgrymu eu bod yn gweld bygythiad i ddiwylliant ac ieithoedd fel cwestiynau llai pwysig?

Mae hefyd awgrymiadau bod perthynas y Blaid Werdd â Phlaid Cymru yn dechrau suro.

Ar eu gwefan fe ysgrifennodd Pippa Bartolotti, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, bod aelodau Plaid Cymru yn aflonyddu ar aelodau’r Blaid Werdd.

Mae’r newid yn eu perthynas yn codi cwestiynau – pam na all ddwy blaid gyda pholisïau mor debyg weithio gyda’i gilydd mewn ffordd heddychlon? Mae’r blog wedi ei ddileu erbyn hyn.

Petruso cyn pleidleisio

I mi, fel myfyrwraig yn y brifysgol, mae addewid y Blaid Werdd ynglŷn â chael gwared ar ffioedd dysgu addysg bellach yn plesio.

Mae addysg yn un o’r hawliau dynol sylfaenol ac fe ddylai bod gan bawb y siawns i gael addysg bellach.

Ond, fel Cymraes a elwodd o addysg ddwyieithog, rwy’n teimlo nad yw polisïau iaith y Blaid Werdd yn ddigon cryf.

Mae gorgyffwrdd amlwg rhwng polisïau’r Blaid Werdd a Phlaid Cymru, ac ni allaf ddeall pam bod dwy blaid mor debyg yn cystadlu.

Taswn i’n byw yn Lloegr mi fuaswn i, heb fymryn o amheuaeth, yn pleidleisio dros y Blaid Werdd, ond fel pleidleisiwr yng Nghymru rwy’n betrusgar.

Rwy’n teimlo nad oes digon o annibyniaeth gan gangen Gymreig y Blaid Werdd i’m cadw rhag cael yr argraff mai ôl-ystyriaeth yw’r Cymry iddyn nhw.

Dw i’n credu y gall y Blaid Werdd o fewn ychydig flynyddoedd fod yn un o brif bleidiau’r Deyrnas Unedig o ran pŵer gwleidyddol, o ran aelodaeth, a chyda cangen Gymreig gref.

Ond, am rŵan dydi’r olaf o’r rheiny ddim o fewn golwg.