Fe fydd cyfres gomedi Dim Byd yn ôl ar S4C heno, gyda rhaglen arbennig fydd yn ymchwilio i helynt cyfnod ‘Wyrion Llywelyn’ yn y 1980.

Tri deg mlynedd ers dyddiau’r ymgyrch losgi tai haf yng Nghymru, mae criw Dim Byd wedi llwyddo i gael aelodau’r mudiad cyfrinachol ‘Wyrion Llywelyn’ i godi’r llen ar eu rhan nhw yn yr ymgyrch.

Dyma’r bedwaredd gyfres i’w darlledu, ers i’r scriptiwr a’r cynhyrchydd Barry ‘Archie’ Jones gyflwyno’r syniad am y tro cyntaf yn 2011.

Fe fydd gweddill y gyfres yn parhau hefo hen ffefrynnau fel ‘Y Tad Maximillian’ a ‘Lle Goblin’, gyda rhai sgetsus newydd fel ‘Reservoir Gogs’ – sy’n dilyn criw o gangsters peryg o Gaernarfon.

Malcolm ‘Sosej’ Morris

Yn y rhaglen Neb yn Gwybod Dim Byd – sy’n cyfeirio at gân Bryn Fôn, ‘Meibion y Fflam’ – fe fydd y dynion lleol Arwel Jones, Malcolm ‘Sosej’ Morris ac Emrys Hughes yn cael eu holi am yr hyn maen nhw’n ei gofio o gyfnod ‘Wyrion Llywelyn’.

‘PC Gwilym Preis’ oedd y swyddog heddlu oedd yn ganolog i’r ymchwiliad ar y pryd ac mae o’n honni fod ganddo wybodaeth, yn rhywle, i brofi bod y tri wedi bod yn rhan o’r ymgyrch.

Fydd o’n medru dod o hyd i’r dystiolaeth er mwyn cyhuddo Arwel, Sosej ag Emrys?

Dim Byd – heno am 9:30, S4C.