Iolo Cheung
Iolo Cheung sy’n asesu’r ffrae dros fformiwla Barnett yng Nghymru …

Dydi hi ddim yn syndod fod y dadlau dros refferendwm annibyniaeth yr Alban yn poethi wrth i ni ddod i’r dyddiau olaf, a fyswn i ddim wedi disgwyl unrhyw beth arall am eiliad.

Heddiw roedd sylw pawb ar yr addewid gan bleidiau Llundain ar flaen y Daily Record fod rhagor o bwerau ar eu ffordd i’r Alban petai nhw’n pleidleisio Na – a ddylen nhw’u credu? Pa bwerau fydd y rhain yn union?

Yng Nghymru, fodd bynnag, roedd sylw pawb ar frawddeg yn is lawr yn y datganiad – sef nad oedd y pleidiau’n bwriadu diwygio fformiwla Barnett.

Yn fras, hon sy’n penderfynu faint o arian mae Cymru a’r Alban yn cael i’w wario, ac mae ‘na gydnabyddiaeth eang fod yr Alban yn cael dêl dda ohoni tra bod Cymru’n methu allan ar ryw £300m y flwyddyn.

Mae Plaid Cymru’n gynddeiriog, wrth reswm, gan awgrymu bod Cymru newydd gael ei thaflu o dan y bws wrth i bleidiau Llundain geisio addo popeth dan haul i’r Alban ar y funud olaf i’w stopio nhw rhag gadael y DU.

Dydi’r pleidiau eraill yng Nghymru, fodd bynnag, ddim wedi cicio ffỳs am yr addewid – maen nhw wedi dweud fod modd cadw Barnett a pharhau i sicrhau bod Cymru’n cael ei hariannu’n deg.

Cyllid teg yn ddigon posib

Fe allai Carwyn, Kirsty ac Andrew fod yn iawn, wrth gwrs – does dim rhaid i gyllid teg i’r Alban olygu cyllid annheg i Gymru (er mai dyna sy’n digwydd ar hyn o bryd).

Ond yr unig ffordd i sicrhau hynny, a chadw Barnett, yw petai San Steffan yn canfod ffordd o anfon y wad ychwanegol yna o £300m lawr yr M4 i Gaerdydd rhyw ffordd arall.

Fe allan nhw ffeindio fformiwla sy’n cadw cyllid yr Alban fel y mae a chynyddu un Cymru ar yr un pryd, wrth gwrs, ond wedyn mae hynna’n golygu diwygio Barnett, ac mae’r addewid yna’n deud yn blaen fod hynny ddim am ddigwydd.

Dwi’n siŵr fod y pleidiau gwleidyddol yn San Steffan a Chaerdydd wedi dechrau meddwl yn ddwys am sut yn union fyddan nhw’n gwneud hynny eisoes.

Ond sut bynnag mae’n digwydd, mae pleidiau unoliaethol Cymru’n credu y gallwn ni gyrraedd sefyllfa ble mae Cymru’n cael rhagor o arian heb orfod torri cyllid yr Alban – ac yn ôl Carwyn Jones, mae Ed Miliband yn cytuno.

Hapus hyd yn hyn? Da iawn.

Y cwestiwn Saesnig

Ond efallai’ch bod chi eisoes yn dechrau gweld beth yw’r broblem fawr yn fan hyn. Mae’r fathemateg i wneud i hynny weithio yn syml, ac fe fyddai’n golygu mwy o arian o Lundain i’r gwledydd Celtaidd.

Dydych chi ddim yn mynd i allu cadw cyllid yr Alban fel y mae, fodd bynnag, ag anfon mwy dros Glawdd Offa, heb gorddi grŵp sylweddol o bobl – y Saeson.

Dydi Lloegr ddim wedi talu rhyw lawer o sylw i ddatganoli hyd yn hyn, yn sicr ddim nes i’r refferendwm yma ar annibyniaeth gael ei gyhoeddi (a llawer ddim tan wythnos diwethaf!).

Ond mae’r cwestiynau cyfansoddiadol sydd wedi cael eu trafod yn yr Alban ers blynyddoedd bellach nawr yn cael eu gofyn yn Lloegr hefyd.

Mae ‘na wleidyddion Torïaidd ar feinciau cefn y llywodraeth eisoes yn gynddeiriog fod Cameron wedi addo na fydd cyllid yr Alban yn gostwng ar ôl pleidlais Na, heb hyd yn oed gofyn i’w blaid ei hun.

Fe ychwanegodd Nadine Dorries ei geiriau doeth i’r botes wrth ofyn “pam ‘da ni’n talu’r Albanwyr i fyta’u deep fried Mars bars?”, cyfraniad gwerthfawr dw i’n siŵr i’r ymgyrch garwriaethol i gadw’r Alban yn rhan o’r DU.

Nid jyst y gwleidyddion Toriaidd sy’n deud hyn – mae ‘na bolau piniwn wedi awgrymu fod pobl Lloegr eisiau i gyllid yr Alban gael ei dorri ar ôl y refferendwm yma, ac mae mwy o leisiau fel un John Redwood rŵan yn galw am ddatganoli i Loegr.

Cenfigen

Mae’r Saeson eisoes yn genfigennus o’r holl arian mae’r Alban yn ei gael ar hyn o bryd, a’r pwerau ychwanegol sydd i fod ar y ffordd yn barod.

Allwch chi ddychmygu felly y byddan nhw’n hapus gweld rhagor o arian yn mynd i Gymru ar hyn o bryd hefyd, yn ychwanegol i hynny?

Waeth pa ddanteithion ychwanegol mae Cameron, Miliband a Clegg wedi addo i’r Alban, mae’n rhaid i Senedd San Steffan a’i haelodau Saesnig eu cymeradwyo cyn iddo allu digwydd, ac mae’n ymddangos fod y gwrthwynebiad yn cynyddu.

Mae Carwyn Jones, Kirsty Williams ac Andrew RT Davies yn iawn i ddweud bod modd sicrhau cyllid teg i Gymru a’r Alban.
Ond un peth yw dweud bod rhywbeth yn bosib – peth arall fydd perswadio Lloegr i dderbyn setliad o’r fath.