Deunydd ymgyrchoedd Ia a Na
Mae arolwg barn newydd wedi darganfod fod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru a Lloegr am weld yr Alban yn aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Canfu’r arolwg bod 63% yn credu na ddylai’r Alban fod yn wlad annibynnol, gyda 18% o blaid annibyniaeth a 19% yn ansicr.

Fe wnaeth yr arolwg barn gan TNS hefyd ddarganfod fod 40% o oedolion Lloegr a Chymru’n credu y byddai annibyniaeth i’r Alban yn gadael gweddill y DU yn waeth eu byd.

Dim ond 18% oedd yn credu y byddai gweddill y DU ar ei hennill yn sgil pleidlais dros annibyniaeth.
Er hynny, dim ond 55% o’r rhai a holwyd wnaeth ddweud bod ganddyn nhw ddiddordeb yng nghanlyniad y bleidlais ddydd Iau. Dywedodd mwy na chwarter (28%) nad oedd ganddyn nhw ddiddordeb o gwbl.

Dywedodd bron i draean (32%) eu bod yn credu y byddai annibyniaeth i’r Alban yn arwain at weddill y DU yn cael llai o ddylanwad ar lwyfan y byd – cynnydd o 10 pwynt ers pan ofynnwyd yr un cwestiwn ym mis Mehefin.

Roedd yr arolwg yn cyfweld â sampl gynrychioliadol o 1,124 o oedolion yng Nghymru a Lloegr rhwng Medi 11 a 15.