Mae na ofnau bod dau ddyn wedi marw mewn damwain hofrennydd yn nwyrain Swydd Efrog.
Gwelwyd yr hofrennydd yn disgyn i’r môr ger Flamborough am 1.40 brynhawn heddiw.
Bu’r heddlu, gwylwyr y glannau, y gwasanaeth ambiwlans a hofrennydd y llu awyr yn rhan o’r chwilio am yr hofrennydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Glannau Humber nad un o hofrennyddion yr heddlu fu’n gysylltiedig a’r ddamwain.
Mae’r ardal o amgylch lleoliad y ddamwain wedi cau ar hyn o bryd wrth i’r gwasanaethau brys a gwylwyr y glannau barhau â’u gwaith.
Roedd datganiad a ryddhawyd gan yr heddlu yn dweud bod ymholiadau cychwynnol yn cael eu gwneud er mwyn ceisio sefydlu’r amgylchiadau a arweiniodd at y ddamwain.
Mae aelodau o’r cyhoedd wedi cael cais gan yr heddlu i gadw draw o safle’r ddamwain oherwydd bod ymylon y clogwyni’n beryglus a bod tanwydd yn y dŵr.