Kirsty Williams
Dyw addewid pleidiau gwleidyddol San Steffan i warchod fformiwla Barnett ar gyfer yr Alban ddim yn golygu na allai Cymru gael ei hariannu’n deg, yn ôl Kirsty Williams.
Fe fynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bod ffordd i sicrhau bod y ddwy wlad ddatganoledig yn cael arian teg – gan herio honiadau cynharach arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Heddiw fe arwyddodd David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg addewid oedd yn dweud y byddai’r Alban yn cael rhagor o bwerau petai’n pleidleisio yn erbyn annibyniaeth. Un o’r addewidon oedd na fyddan nhw’n diwygio fformiwla Barnett, sydd yn mesur faint o arian mae’r Alban yn ei dderbyn.
Petai’r fformiwla yn cael ei ddiwygio fe fyddai’r Alban yn debygol o dderbyn llai o arian – ond fe allai Cymru fod yn derbyn £300m yn fwy bob blwyddyn.
Heddiw fe awgrymodd Leanne Wood fod hyn yn dystiolaeth nad oes gan y Prif Weinidog Carwyn Jones, sydd wedi dweud ei fod eisiau diwygio Barnett yn y gorffennol, unrhyw ddylanwad ar y Blaid Lafur yn Llundain.
Ond dywedodd Carwyn Jones fod Ed Miliband wedi cytuno ag ef fod angen i Lywodraeth Lafur fynd i’r afael â’r broblem o danariannu Cymru.
‘Sbin Plaid’
Mae Kirsty Williams hefyd wedi mynnu fod modd cadw’r fformiwla a chanfod ffordd o ariannu Cymru’n deg.
“Mae pawb yn gwybod bellach bod Cymru’n cael ei thanariannu o dan ffurf bresennol Barnett,” meddai Kirsty Williams.
“Dyna pam mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymrwymo i roi rhagor o arian i Gymru, a sicrhau na fydd cyllido Cymru’n disgyn i lefelau mor annheg eto.
“Does dim byd o gwbl yn yr ymrwymiad gan arweinwyr y pleidiau gwleidyddol Prydeinig heddiw sydd yn bygwth yr ymdrech i ariannu Cymru’n deg – a dweud y gwir, mae’n benodol yn sôn am yr angen i gyllido gwledydd Prydain i gyd yn deg.
“Fe fydd pobl Cymru’n gweld drwy ymgais despret Plaid i droi hyn a chydnabod yr ymdrech wirioneddol i weithio a chreu Undeb ffederal, well.”
Yn y Cynulliad y prynhawn fe ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies fod cynhadledd Nato wedi dangos be all Cymru gyflawni fel rhan o’r DU, gan feirniadu safbwynt Plaid Cymru.
“Mae hyn yn rhagrith llwyr gan y cenedlaetholwyr, yn gofyn am ragor o arian gan y Trysorlys drwy fformiwla Barnett, rhywbeth y bydden nhw’n cael gwared ag ef fel rhan o’u polisi am annibyniaeth i Gymru,” meddai Andrew RT Davies.
“Fe ddangosodd pôl piniwn yr wythnos hon fod 52% o gefnogwyr Plaid Cymru eu hunain ddim yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, y rheswm am eu bodolaeth.”
Blog Gwleidyddiaeth Iolo Cheung: ‘Carwyn a Kirsty’n anghofio un peth – y Saeson’