Mae AC yn galw am ymchwiliad wedi i ddyn 77 oed lewygu ar ôl cael ei adael mewn car ambiwlans ar ddiwrnod poeth am ugain munud.

Bu’n rhaid i John Richards o Hen Golwyn gael triniaeth mewn uned gofal brys ar ôl llewygu ar 9 Medi.

Mae’n honni iddo gael ei adael yng nghefn car ambiwlans gyda’r ffenestri ynghau wrth i’r gyrrwr gasglu claf arall.

“Fe wnes i drio taro’r ffenest a gweiddi, ond roedd y gwres yn ormod i mi, ac oherwydd fy iechyd, doedd gen i ddim y cryfder i wneud dim,” meddai ar raglen Jason Mohamed ar Radio Wales.

Dywedodd yr AC Darren Millar ei fod wedi ei “ffieiddio” ar ol clywed am y digwyddiad a bod angen cynnal ymchwiliad.

Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn dweud eu bod yn pryderu’n fawr am y digwyddiad.

‘Hyfforddiant ychwanegol’

“Rydw i wedi fy ffieiddio. Fydde’ chi ddim yn gadael ci ar ben ei hun ar ddiwrnod poeth, ond yma roedd dyn hyn oedd wedi ei gloi mewn cerbyd, yn methu gadael ar ben ei hun, ac mae ei iechyd wedi dioddef o ganlyniad.

“Mae angen i’r Gwasanaeth Ambiwlans ymchwilio i’r hyn aeth o’i le, ac rydw i eisiau sicrhad na fydd yn digwydd yn y dyfodol.

“Os yw hynny’n golygu bod angen hyfforddiant ychwanegol, dylai hynny ddigwydd. Ond galla’i ddim deall pam y byddai dyn bregus yn cael ei adael mewn cerbyd fel hyn ar ddiwrnod poeth.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod yn ymwybodol o’r digwyddiad ac yn “pryderu” am y mater.