Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford
Bydd meddyg profiadol yn arwain gwaith i sicrhau bod y ffordd mae’r GIG yn adolygu cofnodion cleifion sy’n marw yn yr ysbyty yn gyson ar draws Cymru, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford heddiw.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o ddata marwolaethau mewn ysbytai.

Daeth yr adolygiad i’r casgliad nad oedd y mesurau presennol yn ddigon effeithiol i dynnu sylw at, a rhybuddio, am fethiannau posibl mewn gofal mewn ysbytai.

Ychwanegodd adolygiad Palmer y byddai’r broses dau gam o adolygu nodiadau meddygol pob claf sydd wedi marw yn yr ysbyty yn cynnig ffordd well, a mwy cadarn o asesu diogelwch ac ansawdd gofal.

Mae’r Gweinidog dros Iechyd wedi cyhoeddi y bydd patholegydd ymgynghorol, Dr Jason Shannon, yn edrych ar sut all amrywiadau yn y broses hon gael ei leihau fel bod yr un dull yn gyson ar draws y wlad.

Bydd Dr Shannon, sy’n gyfarwyddwr meddygol cynorthwyol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, hefyd yn ymestyn y mesurau i gynnwys marwolaethau sy’n digwydd yn y gymuned.

‘Mwy y gellir ei wneud’

Meddai’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: “Mae’r dystiolaeth o adolygiadau achosion marwolaethau yn dangos yn glir nad yw’n bosib osgoi’r rhan fwyaf o farwolaethau mewn ysbytai yng Nghymru.

“O’r adolygiadau hyn, mae byrddau iechyd yn dysgu sut all ansawdd cyffredinol y gofal gael ei wella. Er bod adolygiadau o nodiadau achos marwolaeth eisoes yn darparu’r dull mwyaf dibynadwy o ddadansoddi marwolaethau mewn ysbytai, mae mwy y gellir ei wneud i wella’r broses.

“Rwy’n falch o gyhoeddi mai Dr Shannon fydd yn arwain y gwaith hwn i ddatblygu’r dull dros Gymru gyfan.”