Canolfan Pontio
Mae llefarydd ar ran Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi’r prynhawn ma na fydd canolfan Pontio yn agor tan 2015 – dair blynedd ar ôl y dyddiad agor gwreiddiol.

Oedi hefo’r gwaith adeiladu sydd ar fai, yn ôl Prifysgol Bangor.

Cafodd y cynhyrchiad agoriadol, sef ‘Chwalfa’ gan Theatr Genedlaethol Cymru, ei ohirio’r wythnos diwethaf ac roedd disgwyl i Bryn Terfel ac enwogion eraill berfformio mewn gala yno ar 17 Hydref.

Ond ni fydd cynhyrchiad yn cael ei lwyfannu yno tan fis Chwefror 2015.

‘Penderfyniad poenus’

Mewn datganiad, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes: “Yn dilyn trafodaethau manwl gyda’r adeiladwyr rwyf wedi cymryd y penderfyniad anodd a phoenus i ohirio’r perfformiadau oedd i’w cynnal yn adeilad Pontio tan fis Chwefror.

“Rwyf yn sylweddoli y bydd yr oedi pellach yma yn achosi siom i bawb, ond o ystyried yr oedi sydd wedi bod yn y gwaith adeiladu, does gennym ddim dewis arall.

“Y bwriad oedd agor yr adeilad mewn rhannau, gyda’r rhan gyntaf i fod yn barod erbyn Awst 22, fodd bynnag rydym yn parhau i ddisgwyl i’r gwaith yma gael ei gyflawni.”

Yn wreiddiol, roedd bwriad i agor canolfan Pontio yn 2012.

Ail-leoli

Bydd Pontio yn ail-leoli cynhyrchiad Theatr Bara Caws, Garw, yn ystod mis Hydref, ac yn gweithio ar ail-leoli digwyddiadau a drefnwyd fel rhan o Wyl ‘My Friend Dylan Thomas’ Festival. Bydd perfformiadau sydd wedi eu trefnu ar gyfer lleoliadau eraill o fewn y Brifysgol yn parhau.

Ychwanegodd yr Athro Hughes: “Hoffem ddiolch i ddeiliaid tocynnau a’r holl gwmnïau perfformio am eu cydweithrediad ac rydym yn rhannu eu siomedigaeth.

“Fel yr ydym eisoes wedi datgan, bydd gwersi i’w dysgu o hyn, ond ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gweithio gyda’r contractwr, Miller, i gwblhau’r adeilad, a darparu rhaglen gelfyddydol agoriadol o ansawdd uchel. Fel y bydd y gwaith adeiladu yn datblygu byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach.”