Cai Wilshaw
Gyda Barack Obama yn ymweld â De Cymru’r wythnos yma, gyda’i hofrenyddion milwrol a’i ddwsinau o geir, mae’n siŵr bod nifer ohonom wedi bod yn pendroni’r hyn sy’n wahanol rhwng ein gwleidyddiaeth ni a gwleidyddiaeth America.
‘Mawr’ yw’r gair allweddol wrth gymharu’r ddwy system. Mae popeth yn ymwneud â gwleidyddiaeth yr UDA yn fawr; yn gyntaf mae’r arian, yn ail y gwleidydd ac yn olaf, yr ymgyrch ei hunan.
Y prif gŵyn dw i’n ei chlywed wrth y stepen drws yn canfasio yma yng Nghaliffornia dros yr haf yw rôl enfawr arian mewn etholiadau.
Arian mawr
Fe fydd yr un pleidleiswyr yn gweld hysbyseb ar ben hysbyseb am etholiadau fis Tachwedd ymhlith eu hoff raglenni teledu – ac efallai yn gwneud penderfyniadau arwyddocaol ar sail rheiny.
Gyda marchnad deledu mor anferthol yn America, dyw hi ddim yn syndod mai dyma ble mae’r arian yn diflannu.
Yn wir, yn ôl cyfrifiadau diweddar, mae angen dros ddwy filiwn o ddoleri arnoch chi i redeg ymgyrch at etholiadau Tŷ’r Cynrychiolwyr – a dros ddeng miliwn am rai’r Senedd.
Gydag etholiadau bob dwy flynedd, ym mhob cylchred fe ddaw llif cyflymach fyth o arian tuag at yr etholiadau, gan olygu bod yn rhaid cystadlu a chodi arian i gael cyfle o ennill.
Wrth gwrs, mae mawredd yr arian ond yn cyfateb i faint y gwleidydd – neu’n fwy cywir eu personoliaeth.
Mae gwleidyddion blaengar yr Unol Daleithiau yn enwog ar draws y byd am eu cymeriadau a’u personoliaethau trawiadol, mewn ffordd nad yw gwleidyddion eraill yn medru cymharu.
Seleb-wleidyddion
Gyda nifer o weithredwyr gwleidyddol yn edrych tuag at 2016, ac ymgyrch posib Hillary Clinton am yr arlywyddiaeth, mae hi’n parhau i ennyn diddordeb pobl ym mhob cornel o’r byd ac ar draws y rhyngrwyd.
Hyd yn oed heb un o gyfenwau gwleidyddol mwyaf adnabyddus y ganrif, mae gwleidyddion eraill wedi llwyddo i ddal dychymyg pleidleiswyr mewn gwledydd tramor mewn ffordd nad yw unrhyw un o blith gwleidyddion Prydain megis Clegg a Cameron yn medru gwneud.
Sarah Palin, Al Gore, Mitt Romney – i gyd yn wleidyddion sydd wedi cyrraedd statws seleb yn ystod eu gyrfa.
Miloedd o staff
Yn olaf, mae hyd yn oed yr ymgyrchoedd sydd yn creu’r enwogrwydd yma i’r ymgeiswyr yn fawr.
Mewn gwlad mor eang, mae pob gwleidydd yn cynrychioli degau o filoedd o bleidleiswyr – ac yn benodol mewn rhanbarthau gwledig, mae hyn yn gorfodi’r ymgeiswyr i deithio oriau bob dydd i gyrraedd pentrefi na fydd eu cystadleuwr yn fodlon cynnig.
O anghenraid, mae hyn yn golygu bod angen mwy o swyddfeydd, staff a gwirfoddolwyr hefyd. Mae’r ymgyrch yn gwario oriau bob dydd yn ceisio denu mwy o bobl i helpu’r achos – oherwydd heb y gweithlu, nid yw llwyddiant ar y gorwel.
I wlad sydd wedi dyfeisio diwylliant o wneud popeth yn fwy, yn well ac yn gyflymach, dyw hi ddim yn rhy anodd gweld pam bod ei gwleidyddiaeth yn union yr un fath.
Wrth i Gymru edrych tuag at ei dyfodol mewn byd sy’n prysur ddatblygu, efallai bydd angen i’n gwleidyddiaeth ni newid, i efelychu’r hyn sydd yn dda am ddiwylliant gwleidyddiaeth America – ond gobeithio nid y gwael.
Mae Cai Wilshaw yn astudio’r Clasuron yng Ngholeg St. Anne’s, Rhydychen, ac wedi bod yn treulio’r haf yn ymgyrchu ar ran y Democratiaid yng Nghaliffornia.