Mae cartref Frondeg yng Nghaernarfon, sy’n gofalu am oedolion gydag anableddau dysgu, yn galw am gymorth ariannol er mwyn medru cynnal eu bws mini – gwasanaeth sy’n “hanfodol” i’r trigolion, yn ôl un o’r rheolwyr.

Prynwyd y bws mini ar gyfer mynd â’r 10 o drigolion am apwyntiadau iechyd neu i’r ganolfan hamdden er mwyn gwneud ymarfer corff, ond ar hyn o bryd nid oes arian i gynnal y bws.

Mewn ymdrech i godi tua £500, mae’r cartref yn cynnal bore coffi heddiw, lle bydd cyfle i brynu crefftau y mae’r trigolion wedi eu gwneud.

‘Hanfodol’

“Mae cael mynd allan yn rhywbeth ofnadwy o dda i helpu’r trigolion gael mynd i ganol y gymuned, neu i nofio i gadw’n heini,” meddai Dirprwy Reolwr Frondeg, Joanne Povey.

“Mae’r bws mini yn hanfodol i fynd â’r trigolion i apwyntiadau iechyd, i’r ganolfan hamdden, neu am ddiwrnod i rywle maen nhw’n mwynhau mynd.

“Ni’n sy’n talu am MOT a disel i’r bws. Ond does ganddom ni ddim llawer o bres yn y pot ar hyn o bryd i fedru gwneud hynny.”

Ychwanegodd y byddai’r arain yn cyfrannu at fynd â’r trigolion ar deithiau dydd i’r sw neu i leoliadau tebyg.

Cynhelir y bore coffi o 10-3 o’r gloch yng Nghartref Frondeg ym Maesincla, Caernarfon, heddiw.