Iolo Cheung
Mae’n deg dweud mai Alex Salmond ddeffrodd y bore ‘ma gyda’r wên fwyaf ar ei wyneb, ar ôl dadl deledu neithiwr gydag Alistair Darling nad oedd yn medru fforddio’i cholli.
Yn ôl llawer o’r sylwebyddion a roddodd eu barn ar y drafodaeth am annibyniaeth yr Alban, arweinydd yr SNP oedd i’w weld wedi ‘ennill’ – ac yn ôl pôl piniwn y Guardian ac ICM neithiwr, dyna oedd barn y gwylwyr hefyd.
Dywedodd 71% o’r gwylwyr mai Salmond oedd wedi dod i’r brig yn hytrach nag arweinydd yr ymgyrch Na, Better Together, oedd ar 29%.
Roedd hynny’n llawer gwell newyddion i’r ymgyrch Ie, a welodd Darling yn trechu Salmond 56-44 pan ofynnwyd am argraffiadau o’r ddadl gyntaf.
Troi’r byrddau ar Darling
Roedd yn hawdd gweld pam y dyfarnwyd buddugoliaeth swmpus neithiwr, gyda Salmond yn bendant ac yn rymus drwy gydol wrth geisio gwneud ei bwynt, tra bod Darling ar adegau’n ymbalfalu am ateb.
Daeth hyn fwyaf i’r amlwg pan ddaeth at dro’r ddau wleidydd i holi’i gilydd, gyda Darling yn methu’n llwyr a rhoi ateb call pan ofynnodd Salmond pa dri phŵer y gallai sicrhau fyddai’n cael eu datganoli’n bellach i’r Alban petai nhw’n pleidleisio Na.
Roedd y rhan fwyaf o’r dadleuon – dros y bunt, olew, y gwasanaeth iechyd – yn rai rydym ni wedi clywed o’r blaen, ond llwyddiant Salmond neithiwr oedd troi rhai o’r cwestiynau ar eu pen a’u taflu nôl at yr ochr Na.
Am y rhan fwyaf o’r ymgyrch hon, mae Salmond a’r SNP wedi bod yn ceisio ateb y tomen o gwestiynau sydd yn cael eu taflu atynt gan yr unoliaethwyr yn holi beth yn union fydd yn digwydd i hyn a’r llall ar ôl annibyniaeth.
Eto neithiwr, ni roddodd Salmond ateb pendant i Darling pan ofynnodd eto beth fyddai’r Plan B petai gweddill Prydain, mewn ffit o sbeit llwyr, yn saethu’i hun yn ei throed a gwrthod gadael i’r Alban rannu’r bunt (fe gynigiodd dri ‘Plan B’ fel mae’n digwydd, ond doedd Darling ddim yn fodlon â hynny).
Yn lle hynny fe daflodd y cwestiwn yn ôl at Darling, gan ofyn pa Plan B fyddai ef yn ei gefnogi petai’r Alban YN pleidleisio dros annibyniaeth – does dim un ohonyn nhw’n opsiynau call, meddai Darling, a wrthododd roi ateb.
Fe lwyddodd hyd yn oed i gael Darling i gyfaddef “wrth gwrs y gallai Alban annibynnol ddefnyddio’r bunt” – dyfyniad a allai ddod nôl i frathu’r gwleidydd Llafur.
Er nad oedd gan Salmond yr atebion i gyd ynglŷn â sut fyddai’r Alban yn edrych ar ôl annibyniaeth, fe lwyddodd i amlygu rhywbeth yr un mor bwysig – does gan yr ochr Na ddim gweledigaeth ynglŷn â sut fydd pethau ar ôl y refferendwm chwaith.
Polau’n newid?
Roedd y pôl cyntaf ar ôl y canlyniad, gyda sampl o 500, yn dangos y fuddugoliaeth honno’n glir.
Yn ogystal â buddugoliaeth i Salmond dros Darling pan ddaeth at bwy ‘enillodd’ y ddadl, roedd mwy o bobl yn credu fod personoliaeth Salmond wedi apelio’n fwy yn ystod y ddadl (54%) na Darling (32%).
Yn ddiddorol, roedd mwyafrif clir (56%) hefyd yn credu bod gan Salmond y dadleuon gorau o’i gymharu â Darling (36%) – trawiadol tu hwnt o ystyried mai Darling enillodd 51-40 ar y cwestiwn hwnnw yn y ddadl gyntaf.
Dywedodd 41% o bleidleiswyr Na hyd yn oed mai Salmond oedd wedi ‘ennill’ y ddadl, gyda 59% yn dweud Darling – dim sioc i wybod fod 98% o bleidleiswyr Ie wedi galw Salmond yn fuddugol.
Y ffigwr mwyaf trawiadol yn fy marn i oedd yr un yn dangos fod 77% o’r merched yn y pôl yn credu mai Salmond enillodd, o’i gymharu ag ond 63% o ddynion.
Mae’r polau’n gyson wedi dangos fod cefnogaeth dros annibyniaeth yn gryfach ymysg dynion, gyda rhai’n awgrymu nad yw steil gadarn Salmond o ddadlau’n apelio at ferched – tybed a yw arweinydd yr SNP wedi llwyddo i newid barn demograffeg hollol hanfodol jyst mewn pryd?
Y cwestiwn mawr wrth gwrs oedd a newidiodd y ddadl deledu unrhyw farn, gyda’r pôl yn awgrymu fod y bwlch wedi cau rhyw ychydig.
Ar ôl y pôl cyntaf, ac wrth eithrio’r rheiny oedd ddim yn gwybod, roedd Na ar y blaen o 53-47%. Ar ôl dadl neithiwr, roedd y bwlch yn 51-49%.
Rhy ychydig, rhy hwyr?
Rhaid cofio wrth gwrs mai pôl ymysg pobl wyliodd y ddadl deledu oedd hon, nid y boblogaeth yn gyffredinol, ac felly nid yw’n glir eto faint o effaith gaiff y ddadl deledu ar farn pobl.
Ond mae’n awgrymu fod y bwlch wedi cau ychydig, a hynny’n dilyn misoedd ble mae canran y bleidlais Ie yn y polau wedi cynyddu’n araf tuag at y pedwardegau uchaf.
Mae’r wythnos nesaf yn un hanfodol i Salmond, yr SNP, a phawb arall sydd yn rhan o’r ymgyrch Ie.
Dyma pryd fydd y rheiny a wyliodd y ddadl deledu, a’r rheiny sydd nawr yn darllen amdano ar y we ac yn y papur, yn dechrau trafod y cynnwys ymysg ei gilydd.
A dyna ble bydd tynged y refferendwm yn cael ei benderfynu, yn y sgyrsiau ymysg ffrindiau, cydweithwyr, teuluoedd, yn y caffis, clybiau chwaraeon – a lolfa chweched dosbarth.
Dylai’r polau piniwn yn ystod yr wythnos nesaf roi gwell syniad o wir effaith y dadleuon teledu ar farn pobl dros annibyniaeth.
Ac ar 18 Medi fe gawn ni ddarganfod a oedd yr effaith hwnnw’n ddigon, neu a oedd hi’n rhy ychydig, rhy hwyr i Salmond a’r ymgyrch Ie.