Y difrod yn Gaza
Mae uwch swyddog o’r grŵp Hamas wedi dweud eu bod wedi cytuno i gadoediad gydag Israel, er mwyn caniatáu i drafodaethau ail-ddechrau i geisio rhoi terfyn ar y gwrthdaro ffyrnig yn Gaza.

Mae mwy na 2,000 o bobol wedi cael eu lladd yno yn ystod y saith wythnos ddiwethaf.

Dywedodd y llefarydd bod y cytundeb yn gofyn am gadoediad hir dymor ac i’r llywodraeth yn Israel i lacio’r blocad ar Gaza er mwyn gadael cyflenwadau ac adnoddau adeiladu i mewn i’r ardal.

Fe fydd trafodaethau ar faterion fel ail-agor maes awyr a phorthladd Gaza hefyd yn cychwyn ymhen mis.

Fe gyhoeddodd swyddog ar ran Israel eu bod wedi cytuno i’r cadoediad. Fe fydd yn dechrau am 7yh (amser lleol).