Roger Stone, sydd wedi ymddiswyddi fel arweinydd Cyngor Rotherham
Cafodd tua 1,400 o blant eu hecsbloetio yn rhywiol mewn tref dros gyfnod o 16 mlynedd, meddai adroddiad heddiw.

Mae’r adroddiad, sydd wedi bod yn ymchwilio i ddigwyddiadau yn Rotherham, De Sir Efrog rhwng 1997 a 2013, wedi darganfod bod y plant mewn traean o’r achosion eisoes yn hysbys i’r awdurdodau.

Dywed yr adroddiad bod cyfres o fethiannau wedi bod yn arweinyddiaeth Cyngor Rotherham.

O ganlyniad mae arweinydd y cyngor, Roger Stone, wedi cyhoeddi prynhawn ma y bydd yn gadael ei swydd ar unwaith.

Er gwaethaf ymddiswyddiad Roger Stone, dywedodd y prif weithredwr Martin Kimber na fyddai unrhyw swyddogion y cyngor yn wynebu camau disgyblu.

‘Dirmyg’

Dywedodd awdur yr adroddiad, yr Athro Alexis Jay ei bod wedi canfod bod merched mor ifanc ag 11 oed wedi cael eu treisio gan grwpiau o ddynion a bod plant wedi cael eu bygwth gyda gynnau, a’u gorfodi i wylio merched yn cael eu treisio.

“Fe gawson nhw eu bygwth mai nhw fyddai nesaf petai nhw’n dweud wrth unrhyw un,” meddai Alexis Jay.

Mae’r adroddiad yn dweud bod methiannau difrifol wedi bod yn arweinyddiaeth Cyngor Rotherham yn ystod y 12 mlynedd gyntaf a bod difrifoldeb y sefyllfa wedi cael ei danseilio gan uwch reolwyr ac nad oedd yn cael ei weld fel blaenoriaeth gan Heddlu De Swydd Efrog.

Yn ôl yr Athro Jay, roedd yr heddlu wedi “dangos dirmyg tuag at nifer o’r dioddefwyr a oedd yn blant.”

Fe ddigwyddodd y methiannau hyn er gwaethaf tri adroddiad rhwng 2002 a 2006 a oedd wedi rhoi “disgrifiad clir iawn o’r sefyllfa yn Rotherham.”

Cefndir

Daeth Rotherham o dan y chwydd wydr yn 2010 ar ôl i bump o ddynion gael eu carcharu am gyfnodau hir ar ôl eu cael yn euog o ecsbloetio merched ifanc yn eu harddegau.

Dyma oedd yr achos cyntaf mewn cyfres o achosion tebyg dros y pedair blynedd diwethaf sydd wedi datgelu bod merched ifanc mewn trefi a dinasoedd, gan gynnwys Rochdale, Derby a Rhydychen, yn cael eu hecsbloetio.

Yn dilyn yr achos yn 2010, roedd The Times wedi honni bod manylion o 200 o ddogfennau cyfrinachol yn dangos bod gan yr heddlu ac asiantaethau diogelu plant yn Ne Swydd Efrog wybodaeth eang am y gweithredoedd hyn ers degawd, ond nad oedd unrhyw un wedi cael eu herlyn.

Fe arweiniodd yr honiadau at gyfres o ymchwiliadau swyddogol.

Mae Cyngor Rotherham wedi dweud eu bod yn derbyn canfyddiadau’r adroddiad gan gyfaddef bod methiannau difrifol wedi bod.

Ychwanegodd prif weithredwr y cyngor Martin Kimber bod yr adroddiad yn dangos bod eu gwasanaethau wedi gwella’n sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf “ond na ddylai hynny esgusodi’r ffaith y gallai’r cyngor a’i bartneriaid fod wedi gwneud mwy i ddiogelu pobl ifanc rhag achosion erchyll o gam-drin.”