Mae gweithwyr iechyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi dechrau bwrw pleidlais ynglŷn â chynnal streic yn yr anghydfod dros gyflogau.
Aelodau o undeb Unite sy’n pleidleisio heddiw, ac fe fydd aelodau o Unsain a’r GMB yn bwrw pleidlais yn y dyddiau nesaf.
Yn ol Unite mae 1.3 miliwn o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd wedi gweld eu cyflogau yn gostwng 15% mewn termau real ers i’r Llywodraeth Glymblaid ddod i rym ym mis Mai 2010.
Ond mae’r Llywodraeth yn dweud nad ydyn nhw’n medru fforddio codiad cyflog cyffredinol heb gael gwared a swyddi’r rheng flaen.
Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd mis Medi, a’r gweithredu diwydiannol yn digwydd ym mis Hydref os yw’r mwyafrif o blaid hynny.
Nid yw’r Alban yn rhan o’r bleidlais am fod gweinidogion yno wedi cytuno i godi cyflogau’r gweithwyr iechyd o 1% yn ogystal â chodi cyflogau’r gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf hyd yn oed yn fwy.