Vladimir Putin
Mae Arlywyddion Rwsia a’r Wcráin wedi dechrau trafodaethau newydd heddiw wrth iddyn nhw gwrdd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers mis Mehefin.
Mae Arlywyddion Belarus a Kazakhstan, yn ogystal â thri o uwch swyddogion yr Undeb Ewropeaidd, hefyd wedi ymuno â Vladimir Putin a Petro Poroshenko.
Wrth agor y cyfarfod yn Minsk, fe wnaeth Arlywydd Belarws, Alexander Lukashenko, annog y ddwy ochr i ddod o hyd i gytundeb gwleidyddol.
Mae disgwyl y bydd Arlywydd yr Wcráin yn wynebu pwysau i ddod i gytundeb i ddod a’r ymladd, a ddechreuodd ym mis Ebrill, i ben.