Bydd ymgyrch refferendwm annibyniaeth yr Alban yn ras tan y diwedd meddai arweinydd yr ymgyrch Na, Alistair Darling, heddiw.

Ond mae’r cyn Ganghellor wedi mynnu ei fod yn “gynyddol hyderus” y bydd Albanwyr yn pleidleisio yn erbyn gadael y DU mewn ychydig dros dair wythnos.

Roedd yn siarad ar ôl yr ail ddadl deledu neithiwr gydag un arolwg barn yn awgrymu mai Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, ddaeth i’r brig.

Arolwg barn

Dangosodd arolwg barn gan ICM i bapur newydd y Guardian bod 71% o’r rhai a holwyd yn credu mai Prif Weinidog yr Alban berfformiodd orau yn y ddadl, a gafodd ei darlledu ar y BBC, o’i gymharu â 29% oedd yn meddwl bod arweinydd yr ymgyrch Na wedi gwneud orau.

Yn dilyn y ddadl gyntaf fis diwethaf, roedd y cyn Ganghellor, Alistair Darling, wedi gwneud orau yn ôl y gwylwyr.

Unwaith eto, pa arian fyddai’r Alban annibynnol yn ei ddefnyddio’r oedd yn ganolog i’r ddadl neithiwr.

Ond fe wnaeth Alistair Darling dderbyn y gallai’r Alban ddefnyddio’r bunt sterling hyd yn oed os na fyddai San Steffan yn cytuno i drefniant o’r fath.

Meddai Alistair Darling: “Wrth gwrs y gallem ni ddefnyddio’r bunt …  fe allem ni ddefnyddio’r rwbl, y ddoler, yr yen. Fe allem ni ddefnyddio unrhyw beth yr ydym ni ei eisiau.”

Canolbwyntio ar arian

Heddiw, wrth iddo ymweld â ffatri yn Inchinnan, Swydd Renfrew, dywedodd Alistair Darling bod yr ymgyrch Na wedi bod yn “iawn i ganolbwyntio” ar ba arian fyddai’r Alban annibynnol yn ei ddefnyddio.

Dywedodd hefyd na fydd yr ymgyrch Na yn newid eu hymgyrch yn dilyn y ddadl neithiwr.

Mae pleidleisiau post ar gyfer y refferendwm ar 18 Medi yn cael eu hanfon allan heddiw ac ychwanegodd Alistair Darling bod cenedlaetholwyr wedi methu ateb cwestiynau allweddol am beth fydd yn digwydd yn sgil annibyniaeth.

Ond dywedodd Alex Salmond wrth Sky News ei fod yn credu ei fod wedi dadlau’n gryf wrth gyflwyno ei achos y byddai’r Alban yn cadw’r bunt sterling.

Meddai hefyd bod yr ymgyrch Ie yn “bendant” yn ennill ar faterion allweddol eraill fel diogelu gwasanaethau cyhoeddus a chreu swyddi yn yr Alban.