Alwyn Pritchard
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi mai cyhoeddi enw’r gyrrwr beic modur 53 oed fu farw mewn damwain ffordd yn Nantyglo dros y penwythnos.

Roedd Alwyn Pritchard yn Swyddog Heddlu Cymunedol gyda Heddlu Gwent a bu’n gweithio i dîm plismona Brynbuga am chwe blynedd.

Digwyddodd y ddamwain ar yr A465 rhwng Gilwern a Llanfoist nos Sadwrn diwethaf, ac mae’r heddlu wedi arestio dyn 37 oed o ardal Brynmawr, ynghyd a dynes 34 oed o Gilwern ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

‘Uchel iawn ei barch’

Mewn teyrnged i Alwyn Pritchard, dywedodd ei deulu:

“Roedd Alwyn yn ŵr, tad, taid, brawd ac ewythr caredig a ffyddlon, a oedd yn uchel iawn ei barch.

“Does dim geiriau i ddisgrifio faint yr oedd yn ei olygu i’w deulu a’i ffrindiau. Fe wnaeth o argraff ar bawb y bu iddo eu cyfarfod yn ystod ei fywyd, yn yr heddlu ac fel rhiant maeth.

Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Jeff Farrar:

“Roedd Alwyn yn swyddog cymunedol ymroddgar, caredig a chydwybodol ac yn rhan bwysig iawn o’r tîm. Mae’n golled enfawr ac fe fydd yn cael ei fethu gan y llu, ei gyd-weithwyr a’r gymuned. Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda’r teulu.”

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y ddamwain i gysylltu â’r heddlu ar 101.