Boris Johnson
Bydd Maer Llundain Boris Johnson yn sefyll fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Uxbridge a De Ruislip yn Etholiad Cyffredinol 2015, meddai ei lefarydd.

Mae sedd Uxbridge a De Ruislip yn wag yn dilyn ymadawiad y cyn-Ddirprwy Brif Chwip, John Randall.

Roedd gan John Randall fwyafrif o 11,216 yn etholiad cyffredinol 2010.

Arolwg barn

Ddechrau’r mis, fe wnaeth arolwg barn ddangos y byddai mwy na hanner y pleidleiswyr yn yr etholaeth yn Llundain yn pleidleisio dros Boris Johnson pe bai’n sefyll yn etholiad cyffredinol 2015.