Yw hi'n bosib cael newyddiaduraeth diduedd ar annibyniaeth yr Alban?
Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn newyddiaduraeth yn Adran Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor…

Mae’r refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban yn cynnig her i newyddiadurwyr ar bob ochr i’r ffin.

Fel sydd yn wir yma yng Nghymru, mae trigolion yr Alban yn bennaf ddibynnol ar gorfforaethau sydd wedi eu lleoli yn Lloegr am eu newyddion – y BBC, ITV, y Sun, Daily Mail, ac yn y blaen.

Mae’n wir nad yw’r rhan fwyaf o’r papurau newydd yn ceisio celu’r ffaith eu bod nhw’n cefnogi’r ymgyrch ‘Na’, ac am gadw’r Deyrnas Unedig ynghyd.

Wedi’r cwbl, pe bai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth, fe fyddai ymdriniaeth papurau Llundain o faterion y dydd bron a bod yn gwbl amherthnasol i’r gogledd o Berwick-upon-Tweed.

Mae darlledwyr fel y BBC ac ITV hefyd yn wynebu dyfodol ansicr yn yr Alban ar ôl pleidlais annibyniaeth. Ond mae yna reolau llym sy’n dweud y bod rhaid iddyn nhw ochel rhag cefnogi unrhyw ochr yn y ddadl.

Serch hynny mae ymchwil gan Brifysgol Gorllewin yr Alban ar flwyddyn gyntaf yr ymgyrch yn awgrymu bod darlledu’r BBC ac ITV yn tueddu i ffafrio’r ymgyrch ‘Na’:

“…on the objective evidence presented here, the mainstream TV coverage of the first year of the independence referendum campaigns has not been fair or balanced. Taken together, we have evidence of coverage which seems likely to have damaged the Yes campaign.”

Cysylltiadau

Bydd rhaid yn gweld cynllwyn yma gan y darlledwyr i danseilio’r ymgyrch ‘Ie’, ond rwy’n credu bod y darlun ychydig yn fwy cymhleth na hynny.

Y broblem yn ei hanfod yw bod holl beirianwaith y darlledwyr yma wedi ei deilwra tuag at gasglu newyddion gan bleidiau gwleidyddol, busnesau a gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig.

Mae gan bob newyddiadurwr ei lyfr ‘contacts’ – a dim ond hyn a hyn o oriau sydd yn y dydd i feithrin a chadw mewn cysylltiad â’r bobl rheini.

Bydd llyfr ‘contacts’ y rhan fwyaf o newyddiadurwyr y BBC ac ITV yn llawn o bwysigion, gwleidyddion, gweithwyr sifil a phobl busnes Llundain a’r de-ddwyrain.

Yn Llundain mae’r penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud, wedi’r cwbl. Nid bai’r BBC yw hynny – mae eu newyddiadurwyr nhw yn mynd i le mae’r straeon yn debygol o fod.

Oherwydd hynny, mae newyddiadurwyr gorau’r BBC yn tueddu i gael eu gyrru i Lundain. Os wyt ti’n newyddiadurwr o’r safon uchaf â thrwyn am stori mae’n annhebygol y byddi di’n styc yn y ‘rhanbarthau’ am yn hir.

Felly, gyda nifer fawr o newyddiadurwyr gwych yn Llundain, a nifer llai o newyddiadurwr sydd ddim o safon cystal yn yr Alban, mae’n llawer mwy tebygol y bydd newyddiadurwyr yn dod o hyd i ‘stori dda’ sy’n ffafrio’r ymgyrch ‘Na’ na’r ymgyrch ‘Ie’.

Gwelwyd esiampl o hyn ychydig wythnosau yn ôl pan lwyddodd un o newyddiadurwyr canolog y BBC gyfweld boss BP, Bob Dudley, a digwydd ei holi am annibyniaeth yr Alban.

Efallai na fyddai newyddiadurwr llai galluog wedi llwyddo i gael cyfweliad na chwaith wedi cael y fath ateb allan o’r Americanwr.

(Rwy’n gwybod hyn gyda llaw oherwydd bod y broses gyfan wedi ei gofnodi ar episod o Feedback ar Radio 4.)

Tuedd anochel

Ar ben hyn oll, rhaid cofio mai pobl feidrol yw newyddiadurwyr.

Hyd yn oed os ydyn nhw’n trio eu gorau i beidio â dangos gogwydd tuag at un ddadl neu’r llall, rhaid iddyn nhw benderfynu pa straeon sy’n ‘bwysig’ a pha rai sydd ddim.

Mae’r newyddiadurwyr yma wedi eu cyflyru dros ddegawdau i feddwl bod dyfyniad gan aelod o gabinet y Deyrnas Unedig yn bwysicach na dyfyniad gan aelod o gabinet Llywodraeth yr Alban.

Mae’n anochel yn fy nhyb i felly bod ymdriniaeth darlledwyr o’r refferendwm yn mynd i ffafrio cadw’r Deyrnas Unedig at ei gilydd.

Mae’r wasg yn y Deyrnas Unedig yn rhan annatod o wead y wladwriaeth genedl y mae Alex Salmond a gweddill yr ymgyrch ‘Ie’ yn bwriadu ei hollti yn ddwy ran.

Ni all hynny newid nes Medi 18.