Fe ddylai meddygon a nyrsys gael hyfforddiant arbenigol ar sut i adnabod arwyddion o drais yn y cartref a dysgu sut i ofyn y cwestiynau priodol i ddioddefwyr, yn ôl cyfarwyddyd newydd.
Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (Nice) sydd wedi cyhoeddi’r cyfarwyddyd gan alw am godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn rhoi cymorth i bobol sy’n cael eu cam-drin.
Yn ôl ffigyrau, mae o leiaf 1.2 miliwn o ferched a 784,000 o ddynion yn dioddef o drais yn y cartref yng Nghymru a Lloegr.
Ond mae arbenigwyr yn credu fod y ffigyrau yma yn gamarweiniol a bod llawer mwy o achosion sydd ddim yn cael eu datgelu i’r heddlu nac i’r gwasanaethau cymdeithasol.
Y gymdeithas gyfan
Dywed y cyfarwyddyd fod angen i aelodau staff mewn sefydliadau iechyd dderbyn hyfforddiant arbenigol a dysgu sut i gyfeirio pobol at y gwasanaethau priodol.
Mae’r Athro Mike Kelly, cyfarwyddwr canolfan NICE, yn credu fod angen i’r gymdeithas gyfan fod yn ymwybodol o’r broblem hefyd:
“Fe all ddigwydd i unrhyw un o bob oed, lleoliad, hil, rhyw neu incwm gan achosi problemau iechyd sylweddol, nid yn unig i’r dioddefwr, ond i’r bobol o’u cwmpas hefyd”, meddai.
Ychwanegodd Maureen Baker, cadeirydd y Coleg Brenhinol Meddygon Teulu, ei bod hi’n anodd sylwi ar arwyddion amlwg o ddioddefaint:
“Y drafferth i feddygon teulu wrth geisio adnabod arwyddion o drais yn y cartref yw nad oes llawer o arwyddion corfforol.”
Tŷ’r Cyffredin
Mae Elfyn Llwyd AS Plaid Cymru Dwyfor-Meirionnydd yn cyflwyno mesur yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw mewn ymgais i newid y gyfraith ynglŷn â thrais yn y cartref.
Penderfynwyd ym mis Mawrth y llynedd fod trais yn y cartref yn cynnwys trais seicolegol, corfforol, rhywiol, emosiynol ac ariannol ond nid yw’r ymddygiad yn cael ei gyfrif yn drosedd ar hyn o bryd.
Nod Elfyn Llwyd yw creu fframwaith a cheisio ymyrryd yn gynt mewn achosion o drais yn y cartref.