Mae cwmni awyrennau Airbus wedi cyhoeddi cynnydd mewn elw o £900 miliwn yn 2012 i £1.2 biliwn yn 2013, ac maen nhw’n disgwyl i’r elw fod hyd yn oed yn uwch eleni.
Roedd 2013 yn flwyddyn hynod o lwyddiannus i Airbus, wrth i’r cwmni gynhyrchu a gwerthu mwy o awyrennau nag erioed.
Gwerthwyd 626 o awyrennau i 93 o gwsmeriaid gyda chwmni awyrennau Japan Airlines yn prynu 31 o awyrennau A350 mewn archeb gwerth bron i £6 biliwn.
Mae pencadlys cwmni Airbus wedi ei leoli yn Toulouse, Ffrainc ond mae adenydd yr awyrennau yn cael eu cynhyrchu yn ei ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint. Mae’r ffatri yn cyflogi 6,000 o bobol.