Yr ymosodiad yn Hyde park yn 1982
Mae’r Twrnai Cyffredinol, Dominic Grieve wedi amddiffyn ei benderfyniad i ganiatau i  erlynwyr i ddwyn achos yn erbyn dyn oedd wedi’i amau o ffrwydro bom yn Hyde Park yn Llundain ym 1982.

Daeth yr achos yn erbyn John Downey i ben oherwydd gwallau mae teuluoedd y rhai fu farw wedi’u galw’n “gamgymeriadau dybryd”.

Fe fydd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Tewkesbury, Laurence Robertson yn cyflwyno cwestiwn brys yn San Steffan heddiw.

Yn y cyfamser mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson wedi dweud y byddai’n fodlon ymddiswyddo pe na bai ymchwiliad barnwrol yn cael ei gynnal i’r achos.

Dywedodd: “Rhaid i fi ddweud yn ddi-flewyn-ar-dafod nad ydw i’n fodlon bod yn brif weinidog ar lywodraeth sy’n cael ei chadw yn y tywyllwch ynghylch materion sy’n berthnasol i’r hyn rydyn ni’n ei wneud.”

Mewn datganiad, dywedodd Dominic Grieve: “Cyn iddo gael ei gyhuddo, gofynnwyd am fy nghaniatâd, yn unol â’r gyfraith, iddo wynebu cyhuddiad o achosi ffrwydrad. Fe wnes i roi’r caniatâd hwnnw.

“Ro’n i o’r farn bryd hynny mai dyna’r peth cywir i’w wneud, ac rwy o’r un farn heddiw.”

Yn ôl Grieve, roedd y ffrwydrad yn rhan o ymgyrch yr IRA yn Llundain yn erbyn y lluoedd arfog.

Daeth i’r amlwg fod John Downey, sy’n 62 oed, wedi derbyn llythyr gan Heddlu Gogledd Iwerddon yn 2007 yn dweud na fyddai’n cael ei erlyn, er bod gwarant wedi’i chyflwyno i’w arestio.

Ychwanegodd Dominic Grieve: “Beth bynnag oedd yr amgylchiadau wrth anfon y llythyr, mae hi’n amlwg bellach fod sicrwydd wedi’i roi ar gam, ac roedd yn briodol i’r achos gael ei gyflwyno mewn llys.”

Dywedodd nad oedd y llythyr na’r rhesymau dros ei anfon yn ddigon i atal achos llys rhag mynd yn ei flaen.

Cafodd Downey ei arestio ym maes awyr Gatwick fis Mai diwethaf, a’i gyhuddo wedyn.

Mae’n gwadu’r cyhuddiad o lofruddio pedwar milwr Prydeinig ac o achosi ffrwydrad.

Cafodd y milwyr eu lladd ar Orffennaf 20, 1982 pan ffrwydrodd bom mewn car yn Hyde Park.

Roedd Roy Bright, Dennis Daly, Simon Tipper a Jeffrey Young ar eu ffordd i seremoni filwrol ar y pryd.

Cafodd saith o geffylau eu lladd hefyd.

Daeth yr achos gwreiddiol i ben ar ôl i gyfreithiwr Downey ddadlau na ddylai’r achos barhau.

Mynegodd teuluoedd y pedwar milwr eu siom na fydd yr achos yn parhau, ac mae Heddlu Gogledd Iwerddon wedi ymddiheuro iddyn nhw am y gwallau.

Mae John Downey wedi gwrthod gwneud sylw.