Cofeb Hillsborough
Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl wedi annog pobol i beidio prynu tocynnau gan werthwyr answyddogol ar gyfer gwasanaeth coffa Hillsborough.
Mae tocynnau ar gyfer y gwasanaeth blynyddol, sydd eleni’n nodi 25 mlynedd ers y trychineb, yn rhad ac am ddim.
Bu farw 96 o gefnogwyr yn stadiwm Sheffield Wednesday ar Ebrill 15, 1989 ar ôl cael eu gwasgu yn erbyn y terasau.
Mae gwerthwyr answyddogol yn cynnig tocynnau dros y we am hyd at £100 yr un, gan wybod fod y galw’n uchel.
Gall unrhyw un sy’n dymuno mynd i’r gwasanaeth wneud cais trwy’r clwb ar gyfer hyd at bedwar tocyn yr un.
Cofio’r rhai fu farw
Dywedodd Cadeirydd Grŵp Cefnogi Teuluoedd Hillsborough, Margaret Aspinall: “Bob dydd, rydyn ni’n parhau i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau.
“Yn ystod y gwasanaeth 25 mlynedd hwn, fe fyddwn ni’n cynnau golau ar gyfer pob un o’r bywydau a gafodd eu colli’n gynnar ac fe fydd cannwyll tragwyddol Cofeb Hillsborough yn parhau i oleuo’r ffordd trwy’r dyddiau duaf.
“Rydyn ni’n disgwyl i’r gwasanaeth fod yn brysur, felly rydyn ni’n eich annog i gael eich tocyn cyn gynted â phosib, ac i wneud cais am y nifer o docynnau sydd eu hangen arnoch chi’n unig.
“Rydyn ni hefyd wedi gosod dyddiad cau, sef dydd Llun, 31 Mawrth fel y gallwn ni wneud cynlluniau yn ôl y galw.”
‘Munud o dawelwch’
Mae’r gwasanaeth yn dechrau am 2.45pm, gyda munud o dawelwch am 3.06pm – yr union amser y digwyddodd y trychineb.
Mae disgwyl i reolwr Lerpwl, Brendan Rodgers a rheolwr Everton, Roberto Martinez fod yn bresennol, ynghyd â’r Aelod Seneddol Andy Burnham, sy’n hanu o Lerpwl.
Mae disgwyl i gwestau newydd i farwolaethau y 96 o gefnogwyr ddechrau yn Warrington ar Fawrth 31.
Cafodd rheithfarnau’r cwestau blaenorol eu diddymu ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod Heddlu De Swydd Efrog wedi addasu a dileu cofnodion allweddol yn yr ymchwiliad.