Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau bod y chwaraewr ail-reng, Lou Reed wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r rhanbarth.

Ymunodd Reed â’r Gleision o’r Scarlets yn 2012, ac mae e wedi chwarae dros ranbarth Caerdydd 31 o weithiau.

Mae’r chwaraewr 26 wedi cynrychioli Cymru bum gwaith, ac fe gafodd ei gap cyntaf fel eilydd yn erbyn yr Alban yn 2012.

Roedd yn aelod o garfan Cymru a enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Phil Davies: “Rwy’n nabod Lou er pan oedd e’n 19 oed, pan oedd e gyda’r Scarlets, ac rwy wastad wedi’i werthfawrogi fel cymeriad a chwaraewr pwerus a dinistriol.

“Rwy wrth fy modd ei fod e wedi ail-arwyddo i ni unwaith eto.

“Dw i ddim yn credu ein bod ni wedi gweld y gorau o Lou eto ac mae tipyn mwy i ddod.

“Mae’n gwybod bod y ddwy flynedd nesa’n anferth iddo fe ac mae angen iddo fe greu’r argraff ry’n ni’n gwybod y gall e ei wneud.

Dywedodd Lou Reed: “Yn naturiol, rwy’n falch o gael y cytundeb newydd.

“Dwi ddim wedi chwarae cymaint ag y byddwn i wedi hoffi gwneud y tymor hwn oherwydd anaf, felly rydych chi’n pendroni am eich dyfodol.

“Ond mae’r Gleision wedi fy nghefnogi a nawr, rhaid ad-dalu’r ffydd.”

Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at chwarae rhan allweddol i’r Gleision am weddill y tymor.