Gyrrwr wedi marw ar ôl i gerbyd ffrwydro yn Nant Gwynant
Dydy’r heddlu heb gadarnhau gwybodaeth am y gyrrwr eto
Dros hanner pobol Cymru yn credu na ddylid rhewi cyflogau’r heddlu
“Mae canlyniadau ysgubol y pol hwn yn ychwanegu at y pwysau sydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ailfeddwl,” medd UNSAIN
Trên Caersallog ‘wedi mynd trwy olau coch’, ym marn ymchwilwyr
Mae lle i gredu bod olwynion y trên wedi llithro ar y cledrau
Ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng Beddgelert a Phen-y-pas
Daw hyn yn sgil digwyddiad sydd “ar y gweill”, yn ôl yr heddlu
Apêl wedi i ddyn 34 oed gael ei gyhuddo o fod â dryll ffug yn ei feddiant gyda’r bwriad o godi ofn
Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad ddydd Gwener (Hydref 29) yn dweud bod dyn yn cerdded drwy Landrindod gydag arf oedd yn edrych fel dryll awyr
Afon Cleddau: teyrngedau i dri fu farw
Roedd Morgan Rogers, Nicola Wheatley a Paul O’Dwyer ymhlith criw o naw oedd wedi bod yn padlfyrddio pan aethon nhw i drafferthion
Dau blismon yn cyfaddef rhannu lluniau o chwiorydd gafodd eu llofruddio
Deniz Jaffer a Jamie Lewis wedi rhannu lluniau ar WhatsApp o Bibaa Henry a Nicole Smallman, gafodd eu llofruddio mewn parc yn Llundain
Dau ddyn a merch yn gwadu llofruddiaeth yn dilyn ymosodiad mewn parc yng Nghaerdydd
Bu farw Dr Gary Jenkins, 54, 16 diwrnod ar ôl yr ymosodiad ym Mharc Biwt, Caerdydd
Gyrrwr trên Caersallog “wedi cael anafiadau sy’n newid ei fywyd”
Fe darodd yn erbyn trên arall neithiwr (nos Sul, Hydref 31)
Dynes 27 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Abermaw
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A496 rhwng Abermaw a Dolgellau