Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddynes 24 oed o Ferthyr Tudful fu farw yn dilyn digwyddiad wrth badlfyrddio ar afon Cleddau yn Hwlffordd.

Dywed teulu Morgan Rogers fod ganddi “enaidd hardd” a’i bod hi’n “garedig a chariadus”.

Roedd hi’n un o naw o bobol oedd wedi bod yn treulio’r penwythnos yn padlfyrddio ar yr afon.

Bu farw dau arall, dyn a dynes, ac mae dynes mewn cyflwr difrifol.

Cafodd y pump arall eu tynnu o’r afon heb anafiadau.

Mae’r heddlu bellach wedi cadarnhau enwau’r tri fu farw, sef Morgan Rogers (24 oed o Ferthyr Tudful), Nicola Wheatley (40 oed o Bontarddulais ger Abertawe), a Paul O’Dwyer (42 oed o Bort Talbot).

Roedden nhw i gyd yn aelodau o griw o badlfyrddwyr ym Mhort Talbot.

Daeth cadarnhad eisoes fod y cyn-filwr Paul O’Dwyer o Bort Talbot, sy’n dad i dri o blant, hefyd wedi marw wrth geisio achub y bobol eraill yn yr afon.

Dywedodd aelod arall o’r criw ei bod hi wedi penderfynu peidio mynd i’r dŵr oherwydd y tywydd garw.

Teyrnged i Morgan Rogers

“Roedd Morgan yn enaid hardd, yn garedig ac yn gariadus, a gâi ei charu gan bawb sydd wedi’u cyffwrdd gan ei gwên gynnes a’i phersonoliaeth ofalgar,” meddai teulu Morgan Rogers wrth dalu teyrnged iddi.

“Doedd Morgan fyth yn hapusach na phan oedd hi yn yr awyr agored yn gwneud yr hyn roedd hi’n ei garu a threulio amser gyda’i theulu.

“Bydd colled fawr ar ei hôl hi ymhlith ei theulu a’i ffrindiau a phawb roedd hi’n eu hadnabod ar hyd y daith.

“Bydd Morgan bob amser yn ein calonnau a’n hatgofion. Byddwn ni’n gweld ei heisiau’n fawr iawn.”

Mae hi’n gadael mam a thad, yn ogystal â Rhys, Harry, Holly a Katy.

Teyrnged i Nicola Wheatley

Dywed teulu Nicola Wheatley ei bod hi’n “fam, merch, merch-yng-nghyfraith a gwraig gariadus”.

Roedd hi’n “berson hardd, gofalgar, ystyriol a doniol”, meddai’r teulu.

“Roedd hi’n anhygoel ym mhob ffordd.

“Mae hi wedi gadael bwlch yn ein bywydau na chaiff ei lenwi fyth.”

Maen nhw’n gofyn am breifatrwydd i alaru.

Nicola Wheatley
Nicola Wheatley

Roedd hi’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ers 2006, gan arbenigo mewn gwybodaeth am wenwyn, a dechreuodd hi ei gyrfa yn gweithio yn Llundain.

Roedd hi’n aelod profiadol o linell gymorth 24/7, gan gynnig cyngor i bobol broffesiynol ym maes gofal iechyd yn gofalu am gleifion sydd wedi’u gwenwyno.

“Bydd hi’n cael ei chofio am ei dull tawel, cyfeillgar a chwbl broffeisynol – hyd yn oed wrth wynebu’r achosion mwyaf anodd,” meddai ei chydweithwyr.

Maen nhw’n dweud ei bod hi’n “frwdfrydig, ymroddgar a hynod alluog”, a’r person y bydden nhw’n troi ati i drefnu prosiectau ac ymgyrchoedd.

Bydd hi hefyd yn cael ei chofio fel “gwyddonydd dawnus ac ymroddgar”, meddai ei chydweithwyr, a hithau wedi gwneud cyfraniadau i faes tocsicoleg ar lefel ryngwladol.

Teyrnged i Paul O’Dwyer

Dywed teulu Paul O’Dwyer ei fod e “wedi rhoi ei fywyd i achub eraill”.

Roedd e’n ŵr, tad, mab a brawd ffyddlon, meddai’r teulu.

“Fe roddodd ei fywyd i gyfrannu at y gymdeithas yn ei anturiaethau niferus wrth godi arian at wahanol achosion.

“Babi’r dŵr oedd Paul. Dechreuodd ei angerdd am ddŵr gyda thîm achub bywyd Aberafan yn ifanc iawn.”

Paul O'Dwyer
Paul O’Dwyer

Dywed ei deulu ei fod yn angerddol am fyd y campau yn gyffredinol, ac yntau’n bencampwr syrffio’r Fyddin, yn aelod o dîm rygbi saith bob ochr y Fyddin, yn aelod o dîm rygbi Green Stars Aberafan ac yn athro sgïo.

Fe lwyddodd i gwblhau Her Tri Chopa Cymru a Phrydain sawl gwaith, Marathon Llundain, ras 100 milltir, sawl triathlon gan gynnwys Ironman Cymru a her padlfyrddio 100 milltir mewn 21 awr i godi arian at wasanaeth sgrinio’r galon ym Mhort Talbot.

Roedd e’n gobeithio sefydlu elusen hefyd i helpu cyn-filwyr.

Datganiad yr heddlu

Dywed yr heddlu fod y criw o naw o bobol wedi mynd i drafferthion yn afon Cleddau.

Cawson nhw eu galw toc ar ôl 9 o’r gloch fore Sadwrn (Hydref 30), meddai llefarydd.

Roedd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau a’r bad achub i gyd yn rhan o’r ymdrechion i’w hachub, gyda hofrenyddion yn eu cynorthwyo.

Dywed llefarydd fod “ymchwiliad trylwyr” ar y gweill a’u bod nhw’n cydymdeimlo â theuluoedd y rhai fu farw ac a gafodd eu hanafu.

Maen nhw’n annog pobol i “ddeall y tywydd a’r dŵr” cyn mynd allan i badlfyrddio.