Mae’r heddlu yn apelio am dystion wedi iddyn nhw dderbyn galwad ddydd Gwener (Hydref 29) yn dweud bod dyn yn cerdded drwy Landrindod gyda’r hyn roedden nhw’n credu oedd yn ddryll awyr.

Ar ôl derbyn yr alwad tua 3:10 brynhawn Gwener, fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys arestio Christopher Smith, 34 oed o Landrindod, ac mae e wedi cael ei gyhuddo o fod â dryll ffug yn ei feddiant gyda’r bwriad o godi ofn am drais.

Cafodd Christopher Smith ei gadw yn y ddalfa ddoe (dydd Llun, Tachwedd 1).

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un welodd y digwyddiad, neu sydd â wybodaeth a allai helpu’r heddlu gyda’r ymchwiliad, gysylltu â nhw.