Cafodd peilot y Red Arrows ei weld yn gadael awyren eiliadau cyn iddi fynd ar dân, gan ladd peiriannydd oedd hefyd yn aelod o’r tîm.

Dyna glywodd y cwest i farwolaeth Jonathan Bayliss, peiriannydd 41 oed oedd yn eistedd yng nghefn yr awyren pan blymiodd i’r ddaear ar safle’r Awyrlu yn y Fali ym Môn ar Fawrth 20, 2018.

Daeth ymchwiliad i’r casgliad fod y peilot, David Stark, wedi goroesi ar ôl llwyddo i ddianc o’r awyren, ond ei fod yn flinedig a’i sylw wedi’i dynnu oddi ar hedfan cyn y digwyddiad.

Clywodd Steve Morris, arweinydd y criw, wrth y cwest yng Nghaernarfon ei fod e wedi bod yn dysgu myfyriwr yn yr awyren ar y llain lanio pan welodd e’r awyren Hawk T1.

Dywedodd fod cyflymdra’r awyren wrth lanio wedi tynnu ei sylw, yn enwedig wrth droi ac fe ddywedodd iddo weld sedd yn gadael yr awyren cyn gweld pelen o dân.

Dywedodd ei fod e’n credu ar y pryd fod yna ddiffyg ar yr injan, ond daeth ymchwiliad i’r casgliad fod yr awyren yn rhy isel yn yr awyr i allu adfer y sefyllfa.

Dywedodd yr ymchwiliad hefyd nad oedd David Stark wedi gadael digon o amser i orffwys cyn hedfan, a bod hynny wedi cyfrannu at y digwyddiad.

Dywedodd Steve Morris fod yna “bwysau sylweddol” ar beilotiaid yn ystod eu blwyddyn gyntaf gyda’r tîm a bod rhaid “ymrwymo 100%” er mwyn cyflawni’r rôl yn llwyddiannus.

Clywodd y cwest fod Morris wedi bod yn hyfforddi David Stark cyn iddo ymuno â’r Red Arrows yn 2017, ac nad oedd ganddo fe unrhyw bryderon “o gwbl” am ei allu i fod yn beilot.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad fod Jonathan Bayliss wedi marw o ganlyniad i effeithiau’r mwg ac anaf i’w ben.

Ymunodd e â’r Awyrlu yn 2001 ac fe gafodd ei ddyrchafu i’r tîm o beirianwyr sy’n gweithio gyda’r Red Arrows yn 2018.

Mae disgwyl i’r cwest bara pedwar diwrnod, ac fe fydd yn ystyried gwybodaeth y peilot, ymddygiad yr awyren o dan rai amgylchiadau, a’r argymhellion yn dilyn damweiniau awyr eraill y Red Arrows yn 2011.