Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol wedi derbyn gwobr ryngwladol am un o’u prosiectau.
Fe ddyfarnodd Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) mai Prosiect Adfywiad Cyfnod y Rhaglywiaeth sy’n haeddu eu Gwobr Dewis y Bobl eleni, sy’n cydnabod prosiectau peirianneg sifil ar draws y byd sydd wedi gwneud argraff gadarnhaol ar eu cymunedau lleol.
Roedd y prosiect – y mwyaf o’i fath yng Nghymru – wedi costio £37m ac wedi cymryd pum mlynedd i’w gwblhau.
Mae’n cynnwys dau lyn newydd, pontydd, argaeau, a nodweddion peirianyddol eraill ar 300 erw o dir coediog.
Roedd pum prosiect arall ar y rhestr fer i ennill y brif wobr yn ystod pleidlais gyhoeddus ar draws y byd.
Llwyddiant
“Dyna lwyddiant mawr i bawb a fu’n ymwneud â’r prosiect hwn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru,” meddai Ed McCann, Llywydd ICE.
“Mae’n dangos peirianneg sifil mewn goleuni gwahanol – creu ac adfywio mannau angenrheidiol i’r cymunedau lleol eu mwynhau a hyrwyddo byw’n weithgar.
“Mae’r prosiectau ar y rhestr fer eleni i gyd yn dangos bod cynaliadwyedd ac arloesi ar y blaen yn y byd peirianneg sifil.”
Anrhydedd
Mae Huw Francis, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, wedi sôn am bwysigrwydd y prosiect a’r wobr i’r gymuned ehangach.
“Mae’n anrhydedd i ni fod prosiect adfywio Cyfnod y Rhaglywiaeth wedi ennill Gwobr Dewis y Bobl gan ICE,” meddai.
“Mae’n cydnabod cyfuniad o ymdrechu caled ac yn tynnu sylw at y ffaith fod ffyrdd iachus o fyw yn dod yn fwy poblogaidd mewn cymunedau.
“Mae darparu mannau gwyrdd wedi’u cynllunio’n dda – fel ein Gardd ni – yn hanfodol i lesiant pobol a’u hiechyd meddwl.”