Mae dros 80 o wledydd wedi ymrwymo i ostwng eu hallyriadau methan gan 30% erbyn diwedd y ddegawd.

Cafodd yr addewid methan byd-eang ei arwain gan yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd, ac mae wedi cael ei lansio’n swyddogol yn Uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow.

Mae torri methan, nwy tŷ gwydr sy’n cael ei gynhyrchu drwy ffermio da byw ac wrth echdynnu tanwydd ffosil, yn cael ei ystyried yn gam allweddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

O’r 30 gwlad sy’n allyrru’r mwyaf o methan, mae eu hanner wedi addo torri i lawr ar hynny, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd, Irac a Chanada.

Ymateb yr Arlywydd

Wrth siarad yn yr Uwchgynhadledd yn Glasgow, fe wnaeth Joe Biden ddiolch i bawb a wnaeth yr “ymrwymiad arloesol”.

“Gyda’n gilydd, rydyn ni’n ymrwymo ar y cyd i leihau ein hallyriadau methan o 30% erbyn 2030, ac rwy’n credu y gallwn ni fynd y tu hwnt i hynny fwy na thebyg,” meddai.

“Heddiw, mae hyd at 100 o wledydd yn llofnodi.

“Mae hynny gyfystyr â bron i hanner yr allyriadau methan byd-eang.

“Mae’n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr.”

Dywedodd y byddai hyn nid yn unig yn helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, ond hefyd yn gwella iechyd, yn torri ar golledion cnydau ac yn lleihau llygredd.

“Un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud yn y ddegawd dyngedfennol hon wrth gadw’r cynhesu o dan 1.5 gradd yw lleihau ein hallyriadau methan cyn gynted â phosibl,” meddai wedyn.

“Dyma un o’r nwyon tŷ gwydr mwyaf grymus sydd yna. Mae’n cyfateb i tua hanner y cynhesu rydyn ni’n dyst iddo heddiw.”

Ymateb Llywydd Comisiwn Ewrop

Mae Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, hefyd yn “falch, hapus a diolchgar bod dros 80 o wledydd wedi llofnodi”.

“Mae methan yn cynhesu’r blaned 80 gwaith yn fwy na CO₂,” meddai.

“Heddiw, mae allyriadau methan byd-eang yn cynyddu’n gyflymach nag ar unrhyw adeg yn y gorffennol.

“Felly torri’n ôl ar allyriadau methan yw un o’r pethau mwyaf effeithiol y gallwn ni ei wneud i leihau cynhesu byd-eang yn y tymor byr a chadw o dan 1.5 gradd selsiws.”

 

Cop26: mwy na 100 o wledydd yn arwyddo cytundeb i ddiogelu coedwigoedd y byd

Arweinwyr sy’n gyfrifol am 85% o goedwigoedd y byd yn cytuno i ddod a datgoedwigo i ben erbyn 2030