Mae 54% o’r cyhoedd yng Nghymru’n credu na ddylid rhewi cyflogau heddlu sydd ar gyflog uwch na £24,000.

Dim ond 28% oedd yn cytuno bod Llywodraeth San Steffan yn gwneud y peth cywir wrth atal codiadau cyflog.

Cafodd y pôl gan Savanta ComRes ei gomisiynu gan undeb UNSAIN Cymru, sy’n blaenoriaethu sicrhau tâl teg i holl weithwyr y gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi gweithio yn ystod y pandemig.

Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi rhewi cyflogau’r rhan fwyaf o weithwyr yr heddlu, ac o dan yr un cynlluniau, byddai gweithwyr sydd ar gyflogau is na £24,000 yn cael £250 ychwanegol.

Fe wnaeth UNSAIN ddisgrifio’r cynnig fel un “sarhaus” nad yw’n gwobrwyo gwaith caled yr heddlu’n ystod Covid, nac yn gwneud iawn am ddegawdau o wobrwyon ariannol gwael sydd wedi effeithio ar amodau byw gweithwyr yr heddlu.

Dros y deng mlynedd ddiwethaf, mae’r heddlu wedi cael gwerth 12.2% o godiadau cyflog tra bod costau byw wedi codi 27.6%.

Yn ystod yr haf, fe wnaeth gweithwyr yr heddlu sy’n aelodau o undeb UNSAIN yng Nghymru a Lloegr bleidleisio yn erbyn y codiad cyflog.

‘Calonogol’

Dywedodd Joanne Everson, is-gadeirydd UNSAIN Cymru dros Heddlu a Chyfiawnder, a Phil Williams, cadeirydd pwyllgor heddlua Cymru UNSAIN, ei bod hi’n “galonogol clywed bod gan staff yr heddlu gefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru yn ein hymgyrch dros godiad cyflog teg”.

“Maen nhw’n gallu gweld sut ein bod ni wedi parhau i weithio’n galed iawn i gefnogi cymunedau a chadw pobol yn sâff dros yr 19 mis diwethaf, gan roi ein hunain mewn risg uwch o ddal Covid.

“Mae pobol Cymru wedi cydnabod na chafodd ein hymrwymiad a’n haberth eu cydnabod wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig rewi cyflogau.

“Mae cyflog gweithwyr yr heddlu’n mynd am yn ôl, ac mae ein cyllidebau teuluol wedi cael eu gwasgu dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.”

‘Ychwanegu at y pwysau’

Ychwanegodd Simon Dunn, swyddog arweiniol UNSAIN Cymru dros Heddlu a Chyfiawnder, “nad oes amheuaeth bod staff yr heddlu wedi gwylltio gan yr hyn roedden nhw’n ei weld fel rhagrith gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn cymeradwyo a diolch i staff yr heddlu am eu gwaith yn ystod y cyfnod clo ac yna’n atal codiad cyflog teg”.

“Mae canlyniadau ysgubol y pôl hwn yn ychwanegu at y pwysau sydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ailfeddwl a dychwelyd at drafodaethau,” meddai.

“Mae UNSAIN yn benderfynol o sicrhau cytundeb cyflog gwell i staff yr heddlu.”