Mae cyn-Brif Weinidog Cymru wedi amlinellu cynlluniau i ddiwygio addysg Gymraeg yn sylweddol.
Mark Drakeford oedd wedi derbyn cyfrifoldeb dros y Gymraeg wrth i’r Cabinet gael ei ad-drefnu yr wythnos ddiwethaf, ac mae’n dweud bod y Gymraeg yn mynd y tu hwnt i addysg Gymraeg yn unig.
Eglura mai nod y diwygiadau yw gwella sut mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion Saesneg.
Rhybuddia Mark Drakeford fod nifer annigonol o blant yn dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus a hyddysg, er gwaethaf gwersi Cymraeg gorfodol.
“Mae gennym ni darged uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” meddai wrth Bwyllgor Addysg y Senedd.
“Os ydyn ni am gyrraedd y targed hwn, yna mae’r cyfraniad mae’n rhaid i’r system addysg ei wneud… wrth galon yr ymdrechion hynny.”
‘Camliwio’
“Mae hynny’n golygu na all ddibynnu’n llwyr ar bobol ifanc sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg; rhaid iddo gwmpasu pob plentyn… Dyna sydd wrth galon y Bil yma,” meddai Mark Drakeford wedyn.
Gofynnodd Heledd Fychan, llefarydd diwylliant Plaid Cymru, pa wahaniaeth fyddai rhoi’r targed ‘Cymraeg 2050’ ar lefel gyfreithiol yn hytrach nag fel dyhead.
Dywedodd Mark Drakeford fod targed statudol yn gwarchod ei dyfodol ac yn tanlinellu ei phwysigrwydd.
Eglurodd y bydd y Bil hefyd yn cyflwyno’r ar gyfer Ieithoedd i helpu pobol i fesur eu hyfedredd.
“Ar hyn o bryd, does dim byd i roi arweiniad i bobol, ac fel rydyn ni’n gwybod, gall arwain at gamliwio ar ddau ben y sbectrwm,” meddai.
‘Hybu a pherswadio’
Wrth roi tystiolaeth wrth graffu ar y Bil ar Fedi 19, pwysleisiodd Mark Drakeford fod targed 2050 yn golygu dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg.
“Mae hynny’n eithriadol o bwysig – nid dim ond cael mwy o bobol sy’n gallu siarad yr iaith, ond ei hybu a pherswadio pobol i ddefnyddio hynny o’r iaith sydd ganddyn nhw.
“Mae gwneud hynny wrth galon y Bil.”
Fe wnaeth Buffy Williams, cadeirydd Llafur y pwyllgor, ofyn cwestiynau ar ran Tom Giffard, oedd wedi cael problemau technegol yn ystod y cyfarfod hybrid.
Fe wnaeth Tom Giffard, llefarydd addysg y Torïaid, godi pryderon am weithgareddau Cymraeg tu allan i’r cwricwlwm nad ydyn nhw bellach yn cael eu defnyddio mewn categorïau iaith ysgolion.
‘Trafferthion’
Dywedodd Mark Drakeford nad oes unrhyw beth yn y Bil sy’n tanseilio pwysigrwydd y gwaith o annog y defnydd o’r Gymraeg y tu hwnt i’r cwricwlwm mewn unrhyw ffordd.
Dywedodd wrth y pwyllgor y byddai’r Bil yn gosod isafswm o 10% ar gyfer faint o ddarpariaeth addysg Gymraeg sydd mewn ysgolion sy’n addysgu drwy Saesneg yn bennaf.
Gofynnodd Tom Giffard ynghylch yr amgylchiadau lle byddai ysgolion yn gallu cyflwyno eithriadau, gan rybuddio y gallai ysgolion sydd eisoes dan bwysau ei chael hi’n anodd bodloni’r gofyniad o 10%.
“Y rheswm rydyn ni wedi adeiladu hyn i mewn i’r Bil yw er mwyn sicrhau nad yw’r ysgolion hynny fydd yn wynebu rhai heriau wrth gyrraedd 10% yn teimlo o dan bwysau afresymol….
“Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod ni’n parhau i gynnal y tir rydyn ni wedi’i ennill yn nhermau ewyllys da ar gyfer yr iaith ac i dendio i natur hollol ymarferol rhai o’r heriau.”
Fe wnaeth e gadarnhau na fydd elfennau gorfodol y Bil yn berthnasol i ysgolion arbennig.
Ymgynghoriad
Dywedodd Mark Drakeford fod y Bil yn darparu ar gyfer dau estyniad i’r gofyniad o 10% i 2036 ar yr hwyraf, “sy’n beryglus o agos at 2050”, felly fydd estyniadau cyfnod amhenodol ddim yn cael eu caniatáu.
Cododd Lee Waters bryderon fod ysgolion yn symud yn sydyn rhwng categorïau iaith, gydag enghreifftiau o gymunedau yn ei etholaeth yn Llanelli “wedi torri ac wedi colli grym”.
Rhybuddiodd yr Aelod Llafur o’r Senedd fod y Bil “yn ymddangos braidd yn dawel” o ran ymgynghori â’r gymuned.
Dywedodd Bethan Webb, dirprwy gyfarwyddwr sydd â chyfrifoldeb dros ‘Cymraeg 2050’, y bydd cynghorau’n ymgynghori ar eu cynlluniau bob pum mlynedd, gan amlinellu eu huchelgeisiau.
Ychwanegodd y bydd prifathrawon, llywodraethwyr a chymuned ehangach ysgolion yn gallu bwydo i mewn i gynlluniau gweithredu ar lefel ysgolion.
Dywedodd Iwan Roberts, cyfreithiwr yn Llywodraeth Cymru, fod ymgynghori’n rhan orfodol o’r Bil.
Mae ymgynghoriad ar egwyddorion y Bil yn rhedeg tan Hydref 11.
Beth fyddai’r Bil yn ei wneud?
Nod y Bil Iaith Gymraeg ac Addysg yw sicrhau bod disgyblion yn siaradwyr Cymraeg hyderus erbyn oed diwedd ysgol orfodol.
Byddai disgwyl i bob disgybl ddatblygu sgiliau hyfedredd cyfwerth â lefel B2 Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop.
Byddai’r Bil, fel y mae wedi cael ei ddrafftio, yn:
- gosod targedau, gan gynnwys miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ar sail gyfreithiol
- embedio ffordd safonol o ddisgrifio hyfedredd ieithyddol yn seiliedig ar y Fframwaith
- sefydlu categorïau ysgol newydd – Cymraeg yn bennaf, dwyieithog a Saesneg yn bennaf ond yn rhannol Gymraeg – gyda thargedau ar gyfer pob un
- creu cadwyn o atebolrwydd gyda dyletswyddau ar ysgolion, cynghorau a gweinidogion
- sefydlu Athrofa Addysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cyflwynodd gweinidogion y Bil yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, sydd bellach wedi dod i ben, yn gyfnewid am gefnogaeth i basio cyllidebau Llywodraeth Cymru.
Mae asesiad effaith y Bil yn amcangyfrif mai £103.2m yw cyfanswm y gost ar gyfer y degawd hyd at 2034-35.