Gyda thristwch y clywais am farwolaeth sydyn y cymeriad lliwgar a’r Aelod o’r Senedd, Mohammad Asghar, yn gynharach yr wythnos yma.

Roedd y math o gymeriad a oedd yn llenwi ystafell â’i bersonoliaeth, yn gwmni difyr ac yn ddyn hynod o hael a chroesawgar.

Dw i’n falch imi gael y cyfle i ddod i’w adnabod ef a’i deulu pan o’n i’n gweithio i Blaid Cymru yn y Cynulliad ym mlynyddoedd cynnar y ganrif. Dw i hefyd yn gwerthfawrogi’r cipolwg a ges i yn sgil hynny o’r gymdeithas roedd yn aelod mor flaenllaw ohoni.

Mae hanes ei gysylltiad â Phlaid Cymru yn ei daith wleidyddol at fod yn Aelod o’r Senedd am 13 mlynedd olaf ei oes yn un sy’n werth ei nodi.

Cychwyn y cysylltiad hwnnw oedd i’w ferch, Natasha, fod ar brofiad gwaith gyda’r Aelod Cynulliad lleol Jocelyn Davies am gyfnod tua 2001. Cyn pen fawr o dro, roedd wedi ymaelodi â Phlaid Cymru, a dod yn gyfaill personol i Ieuan Wyn Jones, yr arweinydd ar y pryd.

Dros yr ychydig flynyddoedd dilynol, ro’n i’n rhan o garfan o gynrychiolwyr o Blaid Cymru a gâi ein gwahodd yn gyson i ymweliadau’r oedd yn trefnu ar ein cyfer. Ymweliad â mosg ambell dro, cyfarfod cyhoeddus dro arall, a chroeso tywysogaidd a gwledd i’w chofio bob amser.

Adnabyddus

Fel cyfrifydd a gŵr busnes blaenllaw, roedd yn amlwg yn ffigur adnabyddus iawn yn ei gymdeithas, a chofiaf ef un tro yn un o fwytai Asiaidd y ddinas yn martsio i’r gegin i orchymyn y cogyddion i sicrhau ein bod yn cael y bwydydd gorau oedd ganddyn nhw.

Dro arall, pan o’n i angen cyngor gyda materion treth, mynnodd fy helpu’n ddi-dâl. Fwy nag unwaith, mi fûm yn ei gartref helaeth uwchlaw canol y ddinas a’r croeso a’r pentwr o samosas cartref blasus bob amser yr un fath.

Testun difyrrwch i mi yn ddistaw bach ar un o’r ymweliadau hynny oedd lluniau o’r Frenhines ac o Winston Churchill ar silff ben tân un o’i ystafelloedd. Wn i ddim a oedden nhw yno oherwydd teyrngarwch wirioneddol ar ei ran, neu’n ymgais i greu argraff pan fyddai fyddai rhai o fawrion Casnewydd yn ymweld â’i gartref.

Beth bynnag am ei ddaliadau gwleidyddol, fe fu’n ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Nwyrain Casnewydd yn etholiad cyffredinol 2005. Cafodd ei ddewis wedyn yn ymgeisydd rhanbarthol dros Blaid Cymru yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru a’i ethol yn 2007 fel yr Aelod Cynulliad cyntaf o leiafrif ethnig.

Newid plaid

Fel mae’n hysbys fodd bynnag, roedd wedi cefnu ar Blaid Cymru ac ymuno â grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad ychydig dros ddwy flynedd yn ddiweddarach.

O gofio mai Natasha ei ferch a’i harweiniodd at Blaid Cymru yn y lle cyntaf, mae’n eirionig ei bod hithau wedi chwarae rhan amlwg hefyd yn ei ymadawiad â’r blaid.

Roedd Plaid Cymru wedi penderfynu fydden nhw’n caniatáu i wleidyddion etholedig gyflogi aelodau o’u teuluoedd ac roedd yntau’n benderfynol o gyflogi ei ferch. Gan nad oedd gan y Blaid Geidwadol wrthwynebiad i hynny, trodd ei gefn ar Blaid Cymru ac ymuno â nhw.

Fel arfer, pan mae gwleidydd yn newid plaid, waeth pa mor bersonol neu sinicaidd ydi’r rhesymau y tu ôl i’r symud, mae ganddo fo neu hi ryw fath o esgus cyhoeddus dros wneud hynny.

Nid felly Mohammad Asghar. Dw i’n cofio’r cyfweliadau ar y pryd, a’i unig esboniad oedd “I am a unionist. I believe in the Royal Family.” Esboniad digon derbyniol dros ymuno â’r Blaid Geidwadol efallai, ond prin ei fod yn dechrau esbonio ei ymlyniad at Blaid Cymru yn y lle cyntaf.

Diwylliant gwahanol

Dw i’n meddwl fodd bynnag ei bod yn rhy hawdd inni ei farnu ar sail safonau gwleidyddiaeth Cymru neu Brydain yn unig. Roedd yn perthyn i ddiwylliant gwleidyddol cwbl wahanol, a does gen i ddim amheuaeth bod newid plaid ar sail ei hawl i gyflogi ei ferch yn weithred gwbl resymol a derbyniol yn ei olwg.

Er bod ei agweddau gwleidyddol ef a’i gymdeithas yn geidwadol ar y cyfan, dw i ddim yn credu bod ideoleg yn cyfrif llawer iddo. Pan ddeuai’n fater o ddoethinebu ar faterion gwleidyddol y dydd, tueddiad i ailadrodd ystrydebau digon arwynebol oedd ganddo, er y gallai diffyg meistrolaeth ddigon trylwyr o’r Saesneg fod yn rheswm arall dros hyn.

Roedd ei wleidyddiaeth yn seiliedig ar ffafrau a gwrogaeth yn hytrach nag ar deyrngarwch plaid. O ran seboni a chynnig cymwynasau i bobl er mwyn hyrwyddo’i hun a’i fuddiannau, roedd Asghar yn sicr yn wleidydd at flaenau ei fysedd, hyd yn oed os nad oedd ganddo gymaint â hynny o ddawn siarad cyhoeddus.

A oedd wedi defnyddio Plaid Cymru i’w ddibenion ei hun? Do, wrth gwrs, ond mae’n sicr y byddai wedi credu bod hynny’n beth digon teg i’w wneud.

Rhaid cofio hefyd fod Plaid Cymru’n falch o’r cyfle i ethol aelod o leiafrif ethnig. Ac roedd yntau’n llawn sylweddoli hynny. Dw i’n ei gofio fo’n dweud wrtha i rywbryd “I’m very good for Plaid – look how brown I am! Ha ha ha!” Roedd ei hiwmor fel chwa o awyr iach o gymharu ag agweddau hunan-gyfiawn rhai o’r bobl wyn gwleidyddol gywir rheini sy’n cymryd eu hunain yn rhy ddifrifol. Mi allaf ei ddychmygu yn chwerthin yn braf hefyd wrth weld Plaid Cymru’n dewis dynes mewn burka i gyflwyno darllediad gwleidyddol flynyddoedd yn ddiweddarach.

Er hyn, fyddwn i ddim yn cyhuddo Plaid Cymru o fod yn naïf nac yn sinicaidd o gwbl wrth groesawu Asghar i’w plith. Roedd y brwdfrydedd tuag ato yn gwbl ddiffuant a phawb yn gwirioneddol fwynhau ei gwmni. Roedd yna hefyd barodrwydd cyffredinol i’w dderbyn fel yr oedd.

Does dim amheuaeth fod y gymuned Fwslimaidd Asiaidd yng Nghasnewydd wedi colli un o’i chewri, ac y bydd y ddinas gyfan yn dlotach hebddo.