Mae disgwyl y bydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn lleihau’r pellter cymdeithasol o 2 metr wrth gyhoeddi newidiadau i’r rheolau yn Lloegr yn fuan.

Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi awgrymu’n gryf heddiw y bydd adolygiad y Prif Weinidog yn “gwneud gwahaniaeth anferthol” i fusnesau.

Mae’r Llywodraeth o dan bwysau gan arweinwyr y sector arlwyo i leihau’r pellter o 2 metr gan y byddai’r rheol bresennol yn cyfyngu’n ormodol ar eu gallu i weithredu.

“Dw i’n deall yn dda y galwadau am weithredu ar hynny, yn enwedig ein tafarndai a’n tai bwyta sy’n awyddus i weld os oes modd gwneud rhywfaint o newid,” meddai Rishi Sunak mewn ymweliad â siopau yn Swydd Efrog heddiw.

Dywed arbenigwr sy’n cynghori’r Llywodraeth ar ei hymateb i’r pandemig fel rhan o’r grŵp gwyddonol SAGE ei fod wedi ailfeddwl ei wrthwynebiad i leihau’r pellter 2 metr gan fod cyfraddau trosglwyddo yn isel bellach.

“Dw i’n dal i ddweud bod dau metr yn saffach nag un ond yn fy marn i mae bellach yn benderfyniad gwleidyddol rhesymol i lacio’r rheolau hyn,” meddai’r Athro Calum Semple o Brifysgol Lerpwl.

Yn y cyfamser, mae cynlluniau i alluogi tafarndai i ailagor eisoes wedi eu paratoi rhwng y sector arlwyo a gweinidogion. Ymhlith y canllawiau fe fydd cyfarwyddyd i gwsmeriaid archebu diodydd ar ap ar eu ffonau symudol yn lle mynd i’r bar.