Mae’r Covid-19 wedi cyflymu tranc y stryd fawr draddodiadol fel lle i siopa, yn ôl arbenigwr yn y maes.

Dywed Bill Grimsey, cyn bennaeth Wickes ac Iceland, fod bron i hanner y siopau mewn perygl o fynd i’r wal hyd yn oed cyn y pandemig, a bod cynnydd mewn siopa ar-lein wedi cyflymu’r broses.

“Mae’r stryd fawr draddodiadol wedi darfod,” meddai.

Daw ei sylwadau wrth i’w drydydd Adolygiad Grimsey sy’n edrych ar gyflwr prif strydoedd trefi a dinasoedd Prydain gael ei gyhoeddi heddiw.

Ymysg ei 27 o argymhellion i’r llywodraeth mae galwadau am dreth gwerthiannau i ddisodli trethi busnes, a gorfodi i eiddo gwag ar y farchnad i gael eu prynu gan ymddiriedolaethau cymunedol i wasanaethu eu cymdogaethau.

Mae hefyd yn galw am drosglwyddo mwy o rym i gymunedau lleol.

“Mae pobl yn dechrau meddwl yn wahanol a gwerthfawrogi eu cymunedau lleol, anadlu aer glanach a mwynhau’r bywyd gwyllt,” meddai.

“Maen nhw wedi sylweddoli bod bywyd gwell wedi’i adeiladau o gwmpas y rheini sydd â budd yn eu cymunedau ac nid buddsoddwyr o bell, a dw i’n credu bod y pandemig wedi amlygu hyn.

“Mae angen symudiad anferthol mewn grym o San Steffan i’n cymunedau lleol. Dyw Whitehall ddim yn gallu delio â hyn, ac wrth iddyn nhw geisio annog adfywiad, mae adeiladau’n dal i aros yn wag.”