Dywed y mudiad Yes Cymru bod eu haelodaeth bellach wedi codi i 5,000 a’i fod wedi dyblu ers dechrau mis Mai.

Er bod y mudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru wedi adrodd yn gyson am gynnydd mewn aelodaeth a chefnogaeth dros yr wythnosau diwethaf, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gyhoeddi ffigurau pendant.

“Mae Covid, yn un peth, wedi dangos beth all Senedd Cymru ei wneud ac y gall fod er gwell,” meddai Cadeirydd Yes Cymru ar dudalen Facebook y mudiad. “Mae wedi dangos nad yw dilyn San Steffan bob amser yn beth da.”

Mae ei sylwadau’n adleisio’r hyn a ddywedodd mewn cyfweliad gyda Golwg360 fis yn ôl yn trafod sut mae ymateb llywodraethau Cymru a Phrydain i’r argyfwng wedi hybu’r ddadl dros annibyniaeth i Gymru.

Daw cynnydd diweddaraf y mudiad ar ôl i arolwg barn yn gynharach yn y mis ddangos lefelau uwch nag erioed o gefnogaeth ymysg y gyhoedd i annibyniaeth.