Mae protestwyr wedi dymchwel yr unig gofgolofn sydd yn Washington o gadfridog o fyddinoedd taleithiau’r de yn rhyfel cartref yr Unol Daleithiau.
Roedd y brotest yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau i nodi diwrnod y ‘Juneteenth’ ddoe – 19 Mehefin, pryd y daeth caethwasiaeth i ben yn y wlad.
Ar ôl i’r gofgolofn 11 troedfedd o Albert Pike gael ei dymchwel fe wnaeth y protestwyr wedyn gynnau tân gan weiddi: “No justice, no peace! No racist police!”.
Roedd yr Arlywydd Donald Trump wedi ymateb gyda thrydariad y dylai’r protestwyr hyn gael eu harestio ar unwaith a’u bod “yn warth ar ein gwlad”. Roedd cymeradwyaeth fyddarol gan y dorf gan wnaeth y protestwyr ddarllen y sylwadau hyn ar uchelseinydd.
Mae cofgolofn Pike, a gafodd ei chodi yn 1901, wedi bod yn bwnc llosg ers llawer blwyddyn. Roedd y cadfridog dros y Gydffederasiwn yn arweinydd blaenllaw a dylanwadol o’r Seiri Rhyddion, a nhw a oedd wedi pwyso am gael cofgolofn iddo a thalu amdani.
Mae’n cael ei gyhuddo hefyd o fod yn un o brif sylfaenwyr y Ku Klux Klan wedi’r rhyfel cartref, er bod rhai seiri rhyddion yn gwrthod cydnabod hyn.