Mae’r Blaid Geidwadol wedi gwahardd aelod a oedd wedi trydar y dylai AS Llafur Mwslimaidd a gafodd ei geni yn Bradford “fynd yn ôl i Pacistan”.

Roedd Theodora Dickinson, sy’n disgrifio’i hun fel ymgynghorydd cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol gwleidyddol, wedi ymateb i erthygl am dlodi gan Naz Shah, AS Llafur Gorllewin Bradford.

“Os yw Naz Shah yn casáu’r wlad yma gymaint pam nad aiff hi’n ôl i Pacistan,” meddai Theodora Dickinson mewn trydariad. Mae hi bellach wedi ymddiheuro am y sylw.

Dywed llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol bod ei haelodaeth wedi cael ei wahardd tra bydd ymchwiliad yn cael ei wneud i’r mater.