Wrth inni gyrraedd dydd hiraf y flwyddyn heddiw, mae’r proffwydi tywydd yn addo bod rhagor o dywydd braf ar y ffordd.

Y rhagolygon yw y gallwn edrych ymlaen at ddydd poethaf y flwyddyn yr wythnos nesaf.

Mae heddiw’n debygol o aros yn heulog a chynnes ar y cyfan, ac er bod disgwyl cawodydd ledled Prydain heno maen nhw’n annhebygol o bara’n hir.

Meddai Emma Salter o’r Swyddfa Dywydd:

“Dylai Cymru a Lloegr fod yn gwbl rydd o gymylau o ddydd Sul ymlaen, gyda thymheredd yn codi ddiwrnod ar ôl diwrnod.

“Gallai dydd Mercher fod y dydd poethaf o’r flwyddyn hyd yma, gyda disgwyl i dymheredd gyrraedd 30C yn Llundain.”